2 by Twm Morys
A second volume of the poetry of Twm Morys comprising humorous songs and poems in praise of the inhabitants and the close community life of his home area in Eifionydd, with a clever and humorous introduction by the fictional Professor Neil Sagam. -- Cyngor Llyfrau Cymru
2 Llyfr pen taith yw 2, yr ail gyfrol o farddoniaeth gan Twm Morys'Blinais ar wib olwynion' meddai'r bardd yng ngherdd gynta'r gyfrol. Does ryfedd iddo flino: Patagonia, India, Awstralia, Japan, y Ffindir, Romania, Groeg a Sbaen ' dyna rai o'r gwledydd y bu yn troedio'u heolydd, yn ôl y gerdd 'Pasport'. Dyma ni yn troi yn ôl am Eifionydd yng nghwmni'r clerwr yn y casgliad hwn felly. Beth a welwn yno? Mae'r ateb yn y cyflwyniad gan yr Athro Neil Sagam: 'y cwbwl y bu'n ei wneud ers tro byd yw rhaffu englynion ac 'awdlau' am bobol a phethau yn ardal Eifionydd'. A da hynny. Cawn ddarllen am farf Dewi sydd fel 'tîn arth o dan ei ên'. Ac am John Williams, Garreg Wen wedyn: 'mae'n siwr bod Môn yn siarad yn ei glust fel rhyw gorn gwlad wrth docio, neu drwsio drws, neu halio dwr, neu hel dail, neu arafu'n yr efail'. Dyma sôn wedyn am 'R.S.', a'r telynor ffraeth o Lanystumdwy yn hen gyfarwydd â gwaith ac â buchedd y bardd hwnnw: 'Bu'r gwaith, a'r bara a'r gwin olaf ym Mhentrefelin, ac mae'r gwynt drwy Gymru i gyd, Manafon, a Môn hefyd'. Man a lle, cynefin: dyma thema gref arall yn '2'. Mae 'Darllen y Map yn Iawn' yn gerdd dda i ysgrifennu ar glawr Road-Atlas yr AA: nid am yr A5 y cewch sôn yn hon ond am 'hen ffermydd a thai teras bach eich tylwyth hyd y nawfed ach'. Mae Cymreictod dihafal yn perthyn i waith Twm Morys. Ac nid Cymreictod y pethau chwaith. Hen Gymreictod sydd yn llenwi pob pennill o eiddo'r cywyddwr. Mae hunan-ddireidi yn rhan ohono: 'Twm Morys eto, Meuryn: mae o'n hwyr, mi wn i hyn. Hir ei daith adre' i'w dy: hwyr ei gynnig ar ganu'. Mae'n mabwysiadau rhai o arferion yr hen gywyddwyr a beirdd yr uchelwyr, y marwnad ffug, er enghraifft: 'Hel eiddew at fy nghladdu mae'r holl ymgymerwyr hy. Ond nid heddiw y mae'r diwedd! Ym mhen y lôn mae 'na wledd'. Mae yn y gyfrol hon lond crochan o gynghanedd yn ffrwtian ar y tân: ewch i aelwyd y prifardd - fe gewch dorri syched a dianc rhag dwndwr y byd mawr. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Ac yntaun adnabyddus am ei grwydriadau barddol byd-eang, mae Twm Morys wedi dewis ei filltir sgwâr yn Eifionydd a Phen Llŷn fel prif ganolbwynt ei sylw ar gyfer ei ail gyfrol. Wedi ei gwreiddio yn yr un fan, y maer farddoniaeth yn sicr yn treiddion ddwfn i brofiadau dynol, wrth ir rheiny gael eu hadlewyrchu drwy faterion bro. Ceir cywair mwy difrifol i nifer or cerddi, felly, megis ambell i farwnad i gydnabod ac i gymeriadaur ardal. Maen fai. Ond yma ni fydd. Ifan Tyn Llan syn llonydd. (I Ifan Gwyn) Ond rhag ofn bod neb yn meddwl bod Twm yn dechrau dwysáu o setlo i lawr, ac na cheir yma mor smaldod ar ysgafnder sydd mor nodweddiadol oi gerddi, dylwn bwysleisio bod yma ddigon o sgwarnogod a chyfoeth or ffraethineb arferol, a hwnnw os rhywbeth yn sicrach fyth ei annel ac yn fwy trawiadol ei effaith nag or blaen. Dyna i chi un o gerddi arobryn Stomp Tyddewi, er enghraifft, sef Beuno, lle mae hanes y sant yn arswydo o glywed llais Saesneg yn ei gartref yn Aber-riw yn cael mynegiant modern a digon diflewyn-ar-dafod. Ceir yma ddigon o gerddi chwareus i blesio ffans yr agwedd hon ar waith y bardd. Ond i mi, gogoniant y gyfrol hon ywr croywder ar uniongyrchedd a geir mewn cerddi fel Darllen y Map yn Iawn. Ni wna dyfyniad or gerdd hon gyfiawnder âi champ. Rhaid ei darllen ar ei hyd. Maen gerdd wirioneddol ragorol, gyda gweledigaeth unigryw a gwreiddiol a mynegiant hynod effeithiol. Ceir yr un rhinweddau yn y rhan fwyaf o gerddir gyfrol. Dyma fardd syn feistr ar ei grefft, yn llawn mor gyfforddus ym myd y canu caeth ag ydyw gyda cherddi rhydd neu delynegion. Nid oes ymar un gerdd aflwyddiannus, ac mae na amryw byd o rai gwych iawn. Cefais flas anghyffredin ar y gyfrol hon. Arwyddocad teitl y gyfrol, 2, yw nid yn unig mai ail gyfrol y bardd ydyw, yn dilyn llwyddiant Ofn fy Het, ond hefyd ei fod yn dathlu cariad y bardd at Sioned Wyn, y cyflwynir y llyfr iddi. Mae na berygl ar bob llaw i fardd. Gall teithio wneud rhywun yn arwynebol, gall llonyddwch ei wneud yn gul. Yn y gyfrol hon mae Twm Morys wedi dangos ei fod yn gallu osgoi peryglon symudolrwydd a chofleidio rhinweddau sefydlogrwydd. Yr her nawr fydd osgoi peryglon y cyflwr hwnnw. Does dim llonydd i'w gael, hyd yn oed yn Llanystumdwy. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y gyfrol nesaf 3, efallai. -- Grahame Davies @ www.gwales.com

| SKU | Nicht verfügbar |
| ISBN 13 | 9781900437486 |
| ISBN 10 | 1900437481 |
| Titel | 2 |
| Autor | Twm Morys |
| Buchzustand | Nicht verfügbar |
| Bindungsart | Paperback |
| Verlag | Cyhoeddiadau Barddas |
| Erscheinungsjahr | 2002-12-05 |
| Seitenanzahl | 96 |
| Hinweis auf dem Einband | Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden. |
| Hinweis | Nicht verfügbar |