Achos by Grahame Davies

Achos by Grahame Davies

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Zusammenfassung

In his first volume, Adennill Tir, Grahame Davies expressed the experience of the disadvantaged communities of the south Wales Valleys with passion. In his second, Cadwyni Rhyddid, he wittily exposed the double standards of post-devolution Wales. In this volume he takes an independent view of contemporary Wales, and has plenty of hard questions... -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free delivery in the UK
  • Supporting authors with AuthorSHARE
  • 100% recyclable packaging
  • B Corp - kinder to people and planet
  • Buy-back with World of Books - Sell Your Books

Achos by Grahame Davies

In his first volume, Adennill Tir, Grahame Davies expressed the experience of the disadvantaged communities of the south Wales Valleys with passion. In his second, Cadwyni Rhyddid, he wittily exposed the double standards of post-devolution Wales. In this volume he takes an independent view of contemporary Wales, and has plenty of hard questions as he asks, 'How's the Cause?' -- Cyngor Llyfrau Cymru
Yn ôl ei arfer, mae Grahame Davies – yn ei drydedd gyfrol o farddoniaeth – yn llwyddo i daro tant gyda’i gynulleidfaCeir yma gerddi penodol am Gaerdydd a’r cymoedd yn ogystal â chymysgedd o gerddi taith, dilyniannau ar thema a sonedau a cherddi am ddigwyddiadau arbennig sydd wedi cael rhyw effaith ar y bardd. Hoffais wreiddioldeb y gerdd ‘Bodio’ yn disgrifio diniweidrwydd merch o wlad Pwyl yn ymddiried mewn dieithriaid wrth deithio yn eu ceir: . . . pob taith yn ddatguddiad mai haelioni yw’r tanwydd yng ngwythiennau dynion. Mae’r tro yn y gynffon yn effeithiol. Cerdd arall a wnaeth argraff arnaf yw ‘Cais’ ble mae’r bardd yn erfyn am gael gwneud gwahaniaeth: . . . nid mewn rhyw wyrth a wna i eraill ryfeddu gan fy ngwneud i yn falch Yn hytrach mae’r bardd yn gofyn am gael bod yn arwr tawel sy’n gwneud ‘gweithredoedd disylw’ am ei fod yn credu mai’r pethau bach yma sy’n cadw’r byd i symud. Mae hon yn gerdd syml sydd yn gadael y darllenydd yn cwestiynu ei weithredoedd ei hun. Mae ‘Bore Sul y Pasg, Miami Beach’ yn un o’r cerddi sydd wedi ei lleoli y tu allan i Gymru lle mae’r bardd yn eistedd ar y traeth, ac wrth wylio grŵp o bobol yn mynd drwy eu pethau, yn hel meddyliau am ei gred ei hun: yn rhannu, os nad eu llawenydd, un eiliad fyth-dragywydd o sancteiddrwydd sgleiniog stond Mae ‘Freeway’ yn aros yn y cof am ei bod yn creu naws rhyddid gwyliau a’r mwynhad ymlaciedig o wneud dim byd: Ac wrth i’r cwrw gyrraedd does dim yn bod; roedd heddiw’n ddiwrnod perffaith, ac mae mwy i ddod. Y peth braf gyda chyfrol o farddoniaeth yw y gallwch bicio i mewn ac allan ohoni fel y mynnwch ac fe geir ambell i gerdd yn Achos sy’n galw am gael ei darllen fwy nag unwaith er mwyn ei gwerthfawrogi. Mae ‘Muriau’ yn ddilyniant o’r fath gan ei bod yn ymdrin â themâu gwleidyddol a hanesyddol a moesol y byd fel sefyllfa oesol Palestina ac erchylltra’r Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf lle mae milwr Prydeinig yn gafael yn llaw milwr o’r Almaen sy’n marw. Mae sensitifrwydd y bardd ar waith yma: A meddyliais: myn uffern, dwi’n ddigon o ddyn i ladd, dwi’n ddigon o ddyn i wneud hyn: a chymerais ei law yn fy nwylo lleidiog i: 'Mae’n iawn, ’machgen. Mae’n iawn. Mae Mam yma.’ Mae Grahame Davies yn cael ei adnabod fel bardd crafog, cellweirus, ac mae adran gynta’r gyfrol yn adlewyrchu hyn. Yn ‘Abercanna’ ceir y bardd a’i dafod yn ei foch yn gwawdio ffordd o fyw'r Cymry dosbarth canol yng Nghaerdydd. Ffordd o fyw y mae yntau wedi ymdoddi iddi bron yn ddiarwybod iddo. Dyma arddull y bardd ar ei orau. Sut gellir peidio â gwenu wrth ddarllen llinellau fel hyn sy’n adleisio’r gerdd fythgofiadwy honno ‘Blues Pontcanna’?: Pan fwyf yn hen a pharchus, heb deimlo tynfa’r tir, pan nad yw bro fy mebyd yn fwy na llun ar fur, tawelaf fy nghydwybod, wrth feddwl fel ‘na mae ger caeau gwyrdd Pontcanna a dyfroedd llyfn y Bae. Casgliad fwyaf ysgytwol y gyfrol yn fy marn i yw ‘Awelon’ lle ceir disgrifiadau cignoeth, diflewyn-ar-dafod, o sefyllfa’r Gymraeg a’n hagwedd ati yn yr oes sydd ohoni. Mae ysgafnder y mydr a symlrwydd y dweud yn creu neges ysgytwol: Fe chwilia’r awel holl gilfachau’n gwlad Am sillaf o’n diwylliant di-goffâd; Gan sibrwd wrth y glaswellt ar y ffridd: Mor hyfryd oedd, mor hyfryd yn ei ddydd. Mae amrywiaeth y mesuriadau a dyfnder y dweud a’r cyfuniad o’r cellweirus a’r dwys yn golygu y bydd Achos yn apelio at ddarllenwyr o bob math. Y mae yma ddweud pendant am ein sefyllfa ni heddiw fel Cymry cyfoes. Dyma gyfrol gwerth ei chael. -- Mari George @ www.gwales.com
SKU Nicht verfügbar
ISBN 13 9781900437745
Titel Achos
Autor Grahame Davies
Buchzustand Nicht verfügbar
Bindungsart Paperback
Verlag Cyhoeddiadau Barddas
Erscheinungsjahr 2005-10-18
Seitenanzahl 94
Hinweis auf dem Einband Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden.
Hinweis Nicht verfügbar