
Cranogwen by Jane Aaron
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd. Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.| SKU | Nicht verfügbar |
| ISBN 13 | 9781837720255 |
| ISBN 10 | 1837720258 |
| Titel | Cranogwen |
| Autor | Jane Aaron |
| Serie | Dawn Dweud |
| Buchzustand | Nicht verfügbar |
| Bindungsart | Paperback |
| Verlag | University of Wales Press |
| Erscheinungsjahr | 2023-04-15 |
| Seitenanzahl | 256 |
| Hinweis auf dem Einband | Die Abbildung des Buches dient nur Illustrationszwecken, die tatsächliche Bindung, das Cover und die Auflage können sich davon unterscheiden. |
| Hinweis | Nicht verfügbar |