'Sgandal yn llys ein Tywysog! Llywelyn yn dal Siwan odinebus! Crogi ei chariad!' Hawdd dychmygu penawdau papur newydd 1230. Gwyddom y ffeithiau moel, ond nid paham y bradychodd Siwan Lywelyn ar ol oes o'i helpu i adeiladu teyrnas Gwynedd yn erbyn ei thad ei hun, brenin Lloegr. Paham y dialodd Llywelyn mor giaidd ar Wilym Brewys druan? A rhyddhau Siwan o'i charchar ymhen blwyddyn? Ni wyddom air o unrhyw sgwrs rhwng y cymeriadau hyn. (Yn sicr Ffrangeg, nid Cymraeg, a siaradai Siwan a Gwilym gyda'i gilydd, ac efallai hefyd Siwan a Llywelyn.) Yn Siwan cawn ymgais bardd i ddychmygu eu cymhellion a'u hymddiddanion. Chwedl Saunders Lewis, 'cerdd greadigol yw hi, nid gwaith hanesydd'. Cerdd radio, yn wreiddiol: y lleisiau, y llefaru barddonol sy'n bwysig, nid decor llwyfan a digwyddiadau gweladwy. Yn Act I, rhaid cyfleu'r garwriaeth, cefndir llys Gwynedd, ac unigrwydd digariad Siwan wedi oes o lafurio dros uchelgais Llywelyn. Cymherir y ddau gariad a Thrystan ac Esyllt: awgrymir mai tynged, nid dewis, yw achos eu serch ac y bydd yn angheuol, fel yn y chwedl. Pan ddelir hwy, Siwan sy'n llefaru'r geiriau sy'n selio tynged Gwilym. Yn Act II, rhaid wrth Alis i ddisgrifio i'r gwrandawr beth na all ef na Siwan mo'i weld: dienyddio Gwilym ddewr. Carcharwyd Siwan a'i rhyddhau flwyddyn yn ddiweddarach: paham? Sut y gallodd y ddau gyd-fyw wedyn? Ceir yr ateb yn Act III. Cydymdeimla Saunders Lewis a'i arwres: gellir maddau i unrhyw wraig a ddywed, 'Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin'. (Felly hefyd arwres Blodeuwedd: darllenwch honno.) Edmyga Saunders Lewis ddewrder Gwilym, sy'n mentro popeth er mwyn serch a mynd i'w dranc yn herfeiddiol dalog. Ond i Saunders Lewis dyma'r dirgelwch mwyaf: 'Bu crogi Gwilym Brewys yn sioc i holl bendefigaeth ffiwdal Ewrop. Nid ei ladd, ond y crogi, cosb y lladron taeog' (h.y. yn lle dienyddio anrhydeddus a bwyell). 'Pam? Pam? O fyfyrio ar hynny y tyfodd y ddrama hon.'(Y Gragen, t.17, 1971) Gallasai'r arglwyddi Normanaidd eraill godi i ddial y sarhad: paham y mentrodd Llywelyn ei deyrnas? I fodloni dicter personol, fel y tybia Siwan? Na: fe gamddeallodd hi ei gwr: wrth ymbil dros Wilym, dengys ei chred y byddai Llywelyn yn barod i aberthu ei anrhydedd er mwyn ei deyrnas. I Lywelyn, sarhad yw, sy'n peri iddo grogi Gwilym i ddangos bod anrhydedd yn bwysicach na theyrnas. Yn eironig, Siwan ei hun a bennodd dranc ei chariad. Yn Act III eglura Llywelyn wrthi: 'Ti fu achos ei grogi ... Mi atebais i ddirmyg a dirmyg Ac i ddangos i wraig a'm sarnai /Fod un peth y taflwn i goron Aberffraw a Chymru Cunedda er ei fwyn'. Mae'n rhy hwyr iddi dyngu, 'Nid dirmyg oedd fy mwriad.' Dwyseir tristwch urddasol yr act olaf pan glyw Siwan i Lywelyn ei charu o'r cychwyn, ond iddo ymatal rhag dangos hynny rhag ei dychryn. Mae'n rhy hwyr iddo yntau ddatgelu hyn: bu yntau ar fai. Camgymeriad trasig y ddau fu peidio ag agor eu calonnau i'w gilydd, a gadael i bryder ynghylch y deyrnas fod yn drech na theimladau personol. Er hynny, i Saunders Lewis, arwr i'w edmygu oedd Llywelyn. Meddai, 'Mi dybiaf fod mentro popeth ar siawns ... a hynny er mwyn serch ... neu wlad neu anrhydedd ... yn rhan o gymeriad pob mab a merch o galon uchel. Hoffais innau gymeriadau fel yna, Amlyn ac Esther a Hofacker a Llywelyn Fawr.'(Y Gragen, l971) Nid gwaith hanesydd mo Siwan. Gwr priod canol oed oedd Gwilym, nid llanc ifanc; nid drannoeth y crogwyd ef, ond dri mis yn ddiweddarach, nid yn Aber ger Bangor ond yng Nghastell Crogen, ger Llandrillo ym Meirionnydd. Gwyddys mai cynghorwyr Llywelyn a bwysodd am grogi'r Norman. Ni raid derbyn dehongliad dychmygus Saunders Lewis o'r ffeithiau moel. Er gwaethaf her Llywelyn, ni chododd yr arglwyddi Normanaidd yn ei erbyn; na brenin Lloegr ychwaith. Awgrymwyd mai cynllwyn oedd y cyfan, trap i ddenu Gwilym er mwyn cael esgus i gael gwared arno a rhannu ei diroedd yn ysbail. Bu pethau rhyfeddach na hynny yn hanes y gwledydd, a gellid dychmygu drama afaelgar ar sail y dyb honno. Erys Siwan yn ddarlun ingol o wrthdrawiad serch, anrhydedd a gwleidyddiaeth. -- Bruce Griffiths @ www.gwales.com