Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016 by Hywel Griffiths

Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016 by Hywel Griffiths

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A volume by various contributors that looks at the power of words by exploring 10 influential political Welsh songs recorded between 1979 and 2016. How essential was politics to the Welsh rock scene during the past 30 years and to what extent did these songs challenge the attitudes of the time? -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free delivery in Australia
  • Supporting authors with AuthorSHARE
  • 100% recyclable packaging
  • Proud to be a B Corp – A Business for good
  • Buy-back with Ziffit

Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016 by Hywel Griffiths

A volume by various contributors that looks at the power of words by exploring 10 influential political Welsh songs recorded between 1979 and 2016. How essential was politics to the Welsh rock scene during the past 30 years and to what extent did these songs challenge the attitudes of the time? -- Cyngor Llyfrau Cymru
CYFRANWYR Y GYFROL: Un o Gymry Llundain yw Ifor ap Glyn ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon lle mae’n gweithio fel cynhyrchydd teleduErs 2016, ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Pwyll ap Siôn yn gyfansoddwr ac yn Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cyhoeddi ac ymchwilio’n helaeth ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru. Bardd a chynhyrchydd teledu yw Nici Beech. Mae’n gapten ar dîm Talwrn Criw’r Ship, yn awdur llyfr ryseitiau, Cegin, ac yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Arall a Noson Pedwar a Chwech. Bardd yw Elis Dafydd. Mae’n awdur cyfrol o gerddi, Chwilio am Dân(Cyhoeddiadau Barddas, 2016) ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i waith John Rowlands fel rhan o gwrs doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu Hefin Jones yn cadw tafarn Tŷ Newydd, Sarn, pan oedd y lle hwnnw yn un o leoliadau gigs mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin. Yn dilyn hynny bu’n gweithio i’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Mae’n un o un o gyfarwyddwyr label Sbrigyn Ymborth. Bardd, ymchwilydd a pherfformiwr yw Aneirin Karadog. Bu’n aelod o’r Genod Droog a'r Diwygiad ac mae wedi cyfrannu at amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Bu hefyd yn rhan o brosiect Y Datgyfodiad, a greodd albym gysyniadol am Sombis. Griff Lynch yw prif leisydd Yr Ods. Mae’n cynhyrchu’r rhaglen gerddoriaeth, Ochr 1 ar S4C ac ef oedd yn gyfrifol am Canu Protest Merched Mewn Pop (Radio Cymru) oedd yn edrych ar gyfraniad merched i’r byd cerddorol Cymraeg a rhyngwladol ar hyd y degawdau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Wrth glywed am ddyfodiad y gyfrol yma gyntaf, rhaid cyfaddef ’mod i wedi gwingo rhywfaint. Mae ‘canu gwleidyddol Cymraeg’ yn bwnc sydd wedi ei drafod hyd syrffed dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn ofni mai’r un hen drafodaeth flinedig fyddai yma eto ynglŷn ag oes aur y canu protest a sut mae hynny wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhyddhad mawr, felly, oedd darganfod cyfrol oedd yn cynnig dehongliad ychydig bach yn wahanol, a chyfres o gyfraniadau difyr a dadlennol yn trafod beth sy’n gwneud cân wleidyddol. Ac mae’r farn yn amrywio. Ydyn, mae rhai o’r usual suspects yma, y caneuon amlwg – ‘Gwesty Cymru’ gan Geraint Jarman, ‘Tân yn Llŷn’ gan Plethyn ac wrth gwrs ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log – ond mae hyd yn oed yr ysgrifau am y rhain yn cynnig onglau newydd sy’n gwneud i chi feddwl eto am eu negeseuon. Mae’r fformat yn helpu: y cyfranwyr sy’n dewis y caneuon maen nhw’n eu trafod, yn hytrach na thestun wedi’i osod gan y golygyddion. Mae’r blynyddoedd dan sylw yn helpu hefyd, 1979–2016, cyfnod sy’n dilyn ‘oes aur’ y canu protest Cymraeg traddodiadol. Wedi dweud hynny, dyma gyfnod sy’n pontio dau refferendwm datganoli go wahanol, ynghyd â dwy lywodraeth Dorïaidd lawdrwm. Gwir lwyddiant y gyfrol ydy’r caneuon annisgwyl sy’n cyrraedd y rhestr, yn enwedig efallai’r rhai mwyaf diweddar sy’n cloi’r casgliad o ysgrifau. Mae Dyl Mei yn fwy cyfarwydd am ei sylwadau bachog ar raglen Tudur Owen, ond yma mae wedi cyflwyno chwip o ddadansoddiad treiddgar o’r hit feiral, ‘Talu Bills’ gan Rodney Evans. Cysylltir canu gwleidyddol Cymraeg yn aml â brwydr yr iaith, ond mae hon, a sawl ysgrif arall yn y gyfrol, yn dangos bod ystod llawer ehangach gan ein cerddorion. Ac yna mae darn Nici Beech, yn trafod ‘Cyn i’r lle ’ma gau’ gan y Bandana, yn dangos sut gall dehongliad y gwrandäwr o gân amrywio. Go brin bod llawer wedi ystyried hon fel cân wleidyddol cyn hyn, ond mae ymdriniaeth ardderchog Nici yn sicr yn gwneud i chi feddwl ddwywaith am neges caneuon. Dyma lwyddiant y gyfrol i mi – mae’n gwneud i chi feddwl am ganeuon na fyddech chi, efallai, heb lawn ystyried eu neges yn flaenorol, gan hefyd wfftio’r honiad nad oes sylwebaeth wleidyddol yng nghaneuon ein cerddorion ifanc. -- Owain Schiavone @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584049
ISBN 10 1911584049
Title Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016
Author Hywel Griffiths
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2017-06-26
Number of pages 104
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
Note Unavailable