{"title":"Ann Parry Owen","description":null,"products":[{"product_id":"geirfau-r-fflyd-1632-1633-book-ann-parry-owen-9781837720545","title":"Geirfau'r Fflyd, 1632-1633","description":"Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif. Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.","brand":"WoB","offers":[{"title":"GB \/ NEW \/ GARDNERS","offer_id":49751405101329,"sku":"NGR9781837720545","price":0.0,"currency_code":"GBP","in_stock":false},{"title":"GB \/ NEW \/ INGRAM","offer_id":52689405051153,"sku":"NLS9781837720545","price":0.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0784\/4072\/6801\/files\/1837720541.jpg?v=1751451697"}],"url":"https:\/\/www.worldofbooks.com\/en-gb\/collections\/author-books-by-ann-parry-owen.oembed","provider":"World of Books ","version":"1.0","type":"link"}