Llif Coch Awst by Hywel Griffiths

Llif Coch Awst by Hywel Griffiths

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 10% off preloved books when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Llif Coch Awst by Hywel Griffiths

A comprehensive collection of the poems of crowned and chaired bard Hywel Griffiths, comprising poems about Wales, its land and climate, its communities, history and myths. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd naturMae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi. Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod, gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf. Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau. Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd. Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni. -- Idris Reynolds @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584056
ISBN 10 1911584057
Title Llif Coch Awst
Author Hywel Griffiths
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2018-05-30
Number of pages 120
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.