Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad by Jelwyn Hughes

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad by Jelwyn Hughes

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A study of life in Caradog Prichard's popular novel, Un Nos Ola Leuad, portraying the characters of Bethesda and the Ogwen valley. It portrays life and society, buildings and places as they were in Caradog Prichard's days. Reprint; first published in 2008. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free delivery in Ireland
  • Supporting authors with AuthorSHARE
  • 100% recyclable packaging
  • Proud to be a B Corp – A Business for good
  • Buy-back with Ziffit

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad by Jelwyn Hughes

A study of life in Caradog Prichard's popular novel, Un Nos Ola Leuad, portraying the characters of Bethesda and the Ogwen valley. It portrays life and society, buildings and places as they were in Caradog Prichard's days. Reprint; first published in 2008. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ym mis Mai 2005, cyhoeddodd JElwyn Hughes Byd a Bywyd Caradog Prichard, cyfrol a gafodd groeso mor frwd nes gorfod ei hailargraffu o fewn ychydig wythnosau. Yn y gyfrol honno, cyfeiriwyd at nofel fawr Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, gan nodi mai yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth a bod rhannau helaeth o'r gwaith wedi eu seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol a hynny er gwaethaf yr honiad a wna'r awdur yn ei 'Nodyn' ar ddechrau'r nofel:
'Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o'r cymeriadau, ac y mae 'eu dydd yn gelwydd i gyd'...
Fe wyddom erbyn hyn, wrth gwrs, nad oedd 'eu dydd yn gelwydd i gyd'. Darllenwch y gyfrol hon i gael gwybod i ba raddau y seiliwyd rhai o'r cymeriadau a'r llefydd yn y nofel ar bobl a mannau a go iawn yn Nyffryn Ogwen. Eir â chi ar daith ddarluniadol drwy Fethesda i weld siopau, adeiladau a llefydd fel yr oeddent yn nyddiau cynnar Caradog yn ei ardal enedigol a chewch weld lluniau rhai o'r cymeriadau yn union fel yr adwaenai Caradog Prichard hwy, ynghyd â hanes difyr a diddorol sawl un ohonynt.
Fel Byd a Bywyd Caradog Prichard, mae Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yr un mor ddarllenadwy a difyr. Dyma gyfrol arbennig o ddadlennol a fydd o ddiddordeb i Gymry Cymraeg ymhobman ac o gymorth neilltuol i ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddynt astudio Un Nos Ola Leuad ar gyfer eu gwahanol arholiadau.
******************************************
Dyma ailargraffiad o gyfrol ddifyr a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008. Mae’n bwrw golwg ar gefndir un o’n hawduron enwocaf, sef Caradog Prichard ac ar y digwyddiadau, y cymeriadau a’r ardal a fu yn amlwg yn ddylanwad cryf ar un o nofelau mwyaf arwyddocaol yr iaith Gymraeg, sef Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd ganddo yn 1961.
Mae’r gyfrol swmpus hon yn cynnig taith darluniadol o gymdeithas, llefydd a chymeriadau Bethesda a Dyffryn Ogwen fel yr oeddynt yn nyddiau plentyndod a llencyndod Caradog Prichard. Dengys yr awdur adnabyddiaeth arbennig o ardal a phobl Dyffryn Ogwen, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gymeriadau y gymdeithas honno.
• Cyfrol gan un sy’n awdurdod ar un o’n hawduron enwocaf. • Cofnod gwerthfawr o hanes cymdeithasol Dyffryn Ogwen. • Cyfrol a fydd o ddiddordeb i Gymry llengar ym mhobman a hefyd o fudd i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n astudio Un Nos Ola Leuad. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Er bod Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn gyfrol gyflawn ynddi’i hun, mae’n deg dweud ei bod hefyd yn chwaer-gyfrol, ac, ar ryw ystyr, hyd yn oed yn ddilyniant i Byd a Bywyd Caradog Prichard a gyhoeddwyd dair blynedd yn ôl. Ychydig o ofod a neilltuwyd i fynd i’r afael â chefndir y nofel yn y fan honno, ac er mai prin y byddai’r darllenydd wedi sylwi ar y ‘diffyg’ mewn cyfrol gynhwysfawr 198 o dudalennau, fe honna’r awdur mai ceisio ‘gwneud iawn am hynny’ a wnaeth y tro hwn. Yma, fe ganolbwyntir yn gyfan gwbl ar Un Nos Ola Leuad – ei lleoliadau, ei chymeriadau a’i digwyddiadau, a chynseiliau’r rheini yn y ‘byd go iawn’. Fel y dywed J. Elwyn Hughes yn ei Ragarweiniad: ‘Yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth ac y mae rhannau helaeth o’r gwaith wedi ei seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol yn y fro honno, a hynny er gwaethaf yr honiad yn ‘Nodyn yr Awdur’ ar ddechrau’r nofel: “Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o’r cymeriadau, ac y mae ‘eu dydd yn gelwydd i gyd’”’. Eir ati, yn gwbl systematig, i gyfosod, yn gyntaf ‘Lefydd ac Adeiladau’, yna ‘Bobl a Chymeriadau’ ac yna ddigwyddiadau penodol â’u cymheiriaid hanesyddol. Llwyddwyd i gywain casgliad rhyfeddol o ddarluniau a ffotograffau i gyd-fynd â’r cyfan – rhai wedi ymddangos o’r blaen yn y gyfrol flaenorol, ond y rhan fwyaf o ddigon yn gwbl ‘newydd’. Mae trwch y gyfrol yn canolbwyntio ar y cymeriadau, a dyma lle y mae hyd a lled ymchwil J. Elwyn Hughes yn dod i’r amlwg, ynghyd â’i adnabyddiaeth o bobl ei ardal. Cyfeiriaf yn benodol at ‘Now Gwas Gorlan, Robin Gwas Bach Gorlan a Now Bach Glo’, tri chymeriad sy’n ‘ymgorffori elfennau’ o gymeriad Wil Rîtsh (y cynhwyswyd rhai o’i ffraethebau yn y gyfrol Glywsoch Chi Hon? gan Fudiad Adfer yn 1978, ond na chofnodwyd hanes ei fywyd mor gyflawn cyn hyn), a’r bennod honno ar ‘Mister Vinsent Bank a’i Wraig a’u Hogyn Bach, Cyril’, y mae hiwmor yn byrlymu drwyddi. Cefais flas arbennig ar y rhain, ac, mewn ffordd wahanol, ar y bennod ar ‘Defi Difas Snowdon View’, lle y cynhwysir dau lythyr yn llaw T. Rowland Hughes yn holi’r gŵr a fu’n gynsail i Defi Difas, sef David D. Evans, am gefndir y Streic Fawr wrth iddo baratoi i ysgrifennu Chwalfa. Dyma gymeriadau y bu’n golled enfawr i’m cenhedlaeth i beidio â chael eu hadnabod, a dyma gymwynas fawr J. Elwyn Hughes yn y gyfrol hon. Oherwydd y mae’n fwy na chyfeirlyfr i’w gael wrth eich penelin wrth i chi fodio drwy Un Nos Ola Leuad; mae’n gofnod tu hwnt o werthfawr o hanes cymdeithasol, ac yn diogelu straeon am bobl y gellid yn hawdd fod wedi eu hanghofio cyn pen cenhedlaeth eto. Erbyn i ni droi i’r drydedd adran, cawn mai dim ond un ‘digwyddiad’ sydd yma, mewn gwirionedd, sef hanes y gêm bêl-droed gythryblus rhwng yr Holyhead Railway Institute Reserves a’r Bethesda Comrades – neu’r Cybi Wanderers a ‘Celts ni’, fel y’u gelwir yn y nofel. Daeth achlysuron cymdeithasol eraill, fel yr orymdaith i anrhydeddu’r milwr a enillodd fedal y D.C.M., dadorchuddio’r gofgolofn ar derfyn y rhyfel, ac ymweliad Côr y Sowth, eisoes dan y chwyddwydr wrth edrych ar leoliadau a chymeriadau, a’r ffaith honno’n tystio i anawsterau cynllunio astudiaeth o’r fath, lle y mae ailadrodd a chroesgyfeirio bron yn anorfod. Ond hanes yr ornest bêl-droed yw pinacl y gyfrol, ac roedd yn werth neilltuo lle i’w thrafod ar ei phen ei hun. A hithau’n ymestyn dros 326 o dudalennau, byddai hon wedi gwneud cyfrol clawr caled. Ac, eto, cyfrol boblogaidd, werthadwy, y bwriadwyd iddi fod. Ar sail tystiolaeth y lansiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mae’n bendant wedi llwyddo yn hynny o beth. -- Gwen Gruffudd @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781900437998
ISBN 10 1900437996
Title Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad
Author J Elwyn Hughes
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2012-08-30
Number of pages 326
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
Note Unavailable