Siarad Trwy'i Het - Cerddi a Ffotograffau

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary
Karen Owen does not speak through her hat as the title implies. She writes about the things that excite and hurt her. From speed cameras to the Meibion Glyndwr arson campaign, to Radio Cymru. From the world-wide struggle for oil, to mice racing and language preservation, from losing friends and finding love in the most unexpected of places, to... -- Cyngor Llyfrau Cymru
The feel-good place to buy books
- Free delivery in Ireland
- Supporting authors with AuthorSHARE
- 100% recyclable packaging
- Proud to be a B Corp – A Business for good
- Buy-back with Ziffit

Siarad Trwy'i Het - Cerddi a Ffotograffau by Karen Owen
Karen Owen does not speak through her hat as the title implies. She writes about the things that excite and hurt her. From speed cameras to the Meibion Glyndwr arson campaign, to Radio Cymru. From the world-wide struggle for oil, to mice racing and language preservation, from losing friends and finding love in the most unexpected of places, to playing snooker and doing card tricks. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Yn Fy Lle yn 2006
Siarad Trwy'i Het yw enillydd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2012 a hefyd enillydd Gwobr Barn y Bobl 2012. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Rai wythnosau yn ôl cefais fy hun mewn cynhadledd lenyddol yn Aberystwyth. Yno bu Simon Brooks yn traethu ar ei brofiad diweddar fel un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Datganodd fod rhyddiaith Gymraeg yn mynd trwy rhyw fath o oes aur ond na ellid dweud yr un peth am farddoniaeth gyfoes. Roedd llawer yn y gynulleidfa, fe dybiaf, yn cytuno ag ef er na allai neb chwaith ddweud beth yn union oedd y broblem gyda chynnyrch ein beirdd. Tra oedd y drafodaeth hon yn mynd rhagddi, nid oedd neb ohonom wedi sylwi fod Siarad Trwy'i Het wedi cyrraedd y gynhadledd ac yn llechu'n dawel ar y stondin lyfrau yng nghefn yr ystafell. Dyma un o'r cyfrolau o farddoniaeth Gymraeg fwyaf trawiadol i weld golau dydd ers cryn amser. Nid fod popeth am y llyfr yn berffaith. Ofnaf nad yw'r modd y cafodd y dudalen gynnwys ei chysodi na'r modd y penderfynwyd canoli'r cerddi ar y tudalennau eraill yn gwneud cyfiawnder o fath yn y byd â'r gwaith. Ar ôl dweud hynny, rhaid nodi fod hon yn gyfrol swmpus ac mae'r hanes sydd y tu ôl i'w chreu yn cyfrannu yn helaeth at ei gwerth a'i harwyddocâd. Yng Ngŵyl Maldwyn 2010 Karen oedd enillydd cyntaf Het Goffa Iwan Llwyd a hynny am ysgrifennu marwnad i'r bardd. Un o amodau'r wobr yw profi fod yr het wedi ymweld â mannau diddorol cyn ei dychwelyd yng ngŵyl 2011, a dyna sydd wedi ysbrydoli y 52 o ffotograffau yn y gyfrol. Mae'n rhaid cyfaddef mai'r ffotograffau aeth â'm bryd yn gyntaf. Fe'm cyfareddwyd ganddynt ac mae'n rhaid dweud bod yr awdur wedi profi ei hun yn gryn feistr ar dynnu llun. Fe fyddai'r sawl nad yw'n hoffi barddoniaeth yn cael gwerth ei bres o brynu'r llyfr pe na bai ond yn edrych ar y lluniau yn unig. Rhannwyd y gyfrol yn bump adran: Oesol, Gwleidyddol, Pobol, Crwydrol a Beunyddiol. Wn i ddim a ydy'r cerddi yn rhannu mor dwt a hynny chwaith i'r adrannau hyn. Ond yn sicr mae cysgod Iwan Llwyd yn drwm dros y gwaith ac nid y lluniau yn unig sydd i gyfrif am hynny. Mae'r gerdd drawiadol gyntaf, a'r olaf hefyd, yn ymwneud ag ef, heb sôn am nifer o'r rhai eraill sydd i'w cael yma a thraw yn y gyfrol. Nid yw hyn ond yn profi gymaint fu'r sioc a'r gofid o golli Iwan flwyddyn yn ôl i bawb ohonom. Fel Iwan ei hun, mae Karen hefyd yn hoff o grwydro. Mae yma nifer o gerddi sy'n trafod y profiadau ddaw iddi wrth deithio'r ffordd fawr, fel ‘Bywyd ar Gamera’, ‘Rhedeg yn Sych’ a ‘Mwslemiaid yr A55’. Dengys y gyfres o gerddi, ‘Cardiau Post o Efrog Newydd’ iddi gael ei denu, fel Iwan eto, tua'r Gorllewin. Cawn ganddi gerddi dychanol a gwleidyddol (er mai rhai ceidwadol efo 'c' fach yw nifer o'r rhai hynny debygwn i, ac nid yw'r dychan yn taro deuddeg bob tro). Ond drwy'r cerddi cyfoes hyn daw rhywun yn ymwybodol o'i gyrfa fel newyddiadurwraig sy'n gadael ei hôl yn effeithiol iawn ar Y Cymro ar hyn o bryd. Daw bardd y filltir sgwâr a'r bardd gwlad i'r wyneb mewn cerddi eraill a choffáu pobl oedd gwaith y bardd gwlad, wrth gwrs. Yn wir credaf fod Karen ar ei gorau pan fydd yn trafod mynd yn hŷn, heneiddio neu'n coffáu. Dyna sydd gennym mewn gwirionedd yn ‘Howard Kendall ar Wal y Gegin’, ‘Roy Davies’, ‘Smocio efo Dic’, ‘Printar Islwyn Ffowc’, ac ‘Mae yna Hen Ffordd’. Mae yna naws oesol i'r cerddi hyn i gyd. Fe ddefnyddia'r bardd amrywiaeth helaeth o fesurau. Mae yma gerddi cynganeddol, yn gywyddau ac englynion, rhai mewn mydr ac odl ac eraill yn y wers rydd. Does gen i ddim amheuaeth mai'r cerddi gyfansoddwyd yn y wers rydd roddodd y pleser mwyaf i mi’n bersonol. O'u plith hwy mae ‘Symud Piano’, cân serch o fath, yn un sy'n mynnu aros yn y cof. Dyma i ni gyfrol gyfoethog gydag amrywiaeth helaeth o themâu a mesurau sy'n profi fod y traddodiad llenyddol Cymraeg yn fyw ac yn iach yn Nyffryn Nantlle o hyd. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com

| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396442 |
| ISBN 10 | 1906396442 |
| Title | Siarad Trwy'i Het - Cerddi a Ffotograffau |
| Author | Karen Owen |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2011-04-15 |
| Number of pages | 176 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |