Wrth bori drwy dudalennau Pobol Porth yr Aur, mae atgofion melys iawn yn dod yn eu hola . Ista o flaen tân efo Nain yn gwrando ar hynt a helynt ei phentref ym Mhen Ll n, neb yn cael gadael heb gael llond tebot o de a chacan neu blatiad cyfa o binc-weffyrs, dwyn blodau o rar-drws-nesa , y berwela wrth ei dilyn yn hel tai a bloedd yn lle cnoc wrth gerdded i mewn i r tai teras bob tro, a gorau oll gweld Nain ei hun yn chwerthin hyd at ddagrau wrth hel straeon amball un! Yndw, dw i n ôl yno. Ers degawdau mae Harri Parri a i gymeriadau wedi ein diddanu. Diddanu yng ngwir ystyr y gair. Yn llawn ffraethineb, clyfrwch a dawn dweud heb ei ail, aiff Harri Parri â ni i gymdeithas sydd mor hynod o gyfarwydd, o Gymraeg. Yn gawr yn ei grefft, mae r awdur yn un sy n nabod ei bobl drwyddynt draw, maen nhw n byw o i gwmpas yn y byd hwnnw y mae n cyfaddef iddo greu iddo i hun fel dihangfa. Mae John Ogwen wedyn wedi gweithio law yn llaw ag ef - yn ôl Harri Parri i roi cig a gwaed ar ei sgerbydau. Ydi, mae John Ogwen yn theatr un dyn, heb os nac oni bai, ond nid sgerbydau o bell ffordd sy n byw ym Mhorth yr Aur pan mae ar bapur chwaith. Pobl fel chi a fi sydd yma a gwych yw eu cael yn gasgliad gyflawn i r holl rai sydd wedi dilyn yr hynt a r helynt. Mae cynhesrwydd pur mewn cymeriadau megis Miss Davies sy n pryderu n arw am ei chath, Mistyr Thomas y Gweinidog a Cecil Siswrn a swn i a Shamus yn neud yn iawn. Dawn Harri Parri yw gwneud i r darllenydd deimlo ei fod yn byw a bod efo r bobl hyn, yn eistedd yn cael paned yn eu parlwr ac yn torri eu gwalltiau yn Y Siswrn yn clywed yr holl sgyrsiau difyr. Mae n feistr ar realaeth bywyd gan ddod â r gorau allan o fodau dynol a gwneud i ni ddyheu i gymunedau fel un Porth yr Aur barhau am byth. Yn ogystal â r casgliad, mae r cyfraniad gan Harri Parri ei hun yn werthfawr i ddeall y dewin sydd wedi rhoi gwên i ni i gyd dros y blynyddoedd. Mae gwerthfawrogiadau edmygwyr yn gytûn ei fod yn frenin ar y stori ffraeth. Diolch, Harri Parri, am fynd â fi n nol i blentyndod hapus iawn. Mae pobl Porth yr Aur yn fyw, ac yn anfarwol. -- Llinos Griffin @ www.gwales.com