{"product_id":"iaith-oleulawn-book-dafydd-r-johnston-9781786835673","title":"'Iaith Oleulawn'","description":"Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.","brand":"WoB","offers":[{"title":"GB \/ LIKE_NEW \/ INTERNAL","offer_id":49518376648977,"sku":"GOR013354379","price":12.69,"currency_code":"USD","in_stock":false},{"title":"GB \/ VERY_GOOD \/ INTERNAL","offer_id":49531493908753,"sku":"GOR013612912","price":24.99,"currency_code":"USD","in_stock":false},{"title":"GB \/ NEW \/ INGRAM","offer_id":52673095762193,"sku":"NLS9781786835673","price":32.99,"currency_code":"USD","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0784\/4072\/6801\/files\/1786835673.jpg?v=1751184409","url":"https:\/\/www.worldofbooks.com\/products\/iaith-oleulawn-book-dafydd-r-johnston-9781786835673","provider":"World of Books ","version":"1.0","type":"link"}