Cart
Free Shipping in Australia
Proud to be B-Corp

Caffi Merelli G. R. Gemin

Caffi Merelli By G. R. Gemin

Caffi Merelli by G. R. Gemin


$27.99
Condition - Very Good
Only 2 left

Summary

A Welsh adaption of G. R. Gemin's Sweet Pizza by Mared Llwyd. A A heart-warming story about bringing a diverse community together and about the amazing history of Italian immigrants in Wales. Jo loves his Italian heritage: the language, the opera, the lasagne!

Caffi Merelli Summary

Caffi Merelli by G. R. Gemin

A Welsh adaption of G. R. Gemin's Sweet Pizza by Mared Llwyd. A A heart-warming story about bringing a diverse community together and about the amazing history of Italian immigrants in Wales. Jo loves his Italian heritage: the language, the opera, the lasagne!

Caffi Merelli Reviews

Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o'r nofel Sweet Pizza gan G. R. Gemin yw Caffi Merelli. Enillodd y nofel Saesneg wobr Tir na n-Og yn 2017, fe'i henwebwyd hefyd am wobr nodedig Carnegie, yn ogystal ag ymddangos ar restr hir Gwobr Lenyddiaeth Plant papur newydd y Guardian. Mae Joe yn fachgen 14 mlwydd oed sy'n ymdrechu i gadw caffi'r teulu yn nhref Bryn Mawr ar agor, caffi a agorwyd am y tro cyntaf gan ei hen dad-cu - Nonno - ddaeth i Gymru o'r Eidal yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Cydblethir stori Joe gyda hanesion ei dad-cu am y caffi a chyfnod tywyll yr Ail Ryfel Byd, wrth iddo gofnodi ei atgofion ar dap i'w wyr tra ei fod yn glaf yn yr ysbyty. Drwy atgofion Nonno, down i ddysgu am garchariad yr Eidalwyr yng Nghymru yn ystod y cyfnod, ynghyd a hanes suddo'r SS Arandora Star, llong oedd yn cario rhai o'r carcharorion rhyfel hynny o Brydain i Ganada. Wrth i Joe ddysgu mwy am hanes y teulu, cynyddu mae ei ddiddordeb yn ei hunaniaeth Eidaleg. Mae'n awchu i ddeall mwy am ei dreftadaeth, yr iaith a'i harferion, y bwyd ac yn fwyaf annisgwyl i fachgen ifanc yn ei arddegau efallai, opera. Llwydda G. R. Gemin, a Mared Llwyd drwy ei haddasiad medrus, i gyflwyno themau pwysig fel perthyn a mewnfudo mewn modd ysgafn, hynod ddarllenadwy. Wrth i Joe a'r teulu geisio dod i dermau gyda salwch Nonno a thranc y caffi, llwydda'r awdur i gyfleu eu perthynas a'i gilydd mewn modd cynnes a chredadwy. Mae cymuned Bryn Mawr ddoe a heddiw, a'i chymeriadau hefyd wrth galon y nofel. Ceir yma ystod o gymeriadau amrywiol sy'n llwyddo i wthio'r stori yn ei blaen yn araf a phwyllog; cymeriadau fel ffrind gorau Joe, Combi; Mimi ei gyfnither o'r Eidal ddaw i gynorthwyo yn y caffi yn dilyn salwch Nonno; yn ogystal a theulu Malewski ddaeth o wlad Pwyl yn wreiddiol, sy'n rhedeg siop gyferbyn a'r caffi. Mae tudalennau'r gyfrol yn gorlifo gan ddisgrifiadau byw o fwydydd Eidalaidd amrywiol sy'n tynnu dwr i'r dannedd. I'r sawl sy'n awchu i fynd i arbrofi yn y gegin wedi'r darllen ceir ambell rysait ar gyfer rhai o brydau'r nofel ar ddiwedd y llyfr, ynghyd a mwy o wybodaeth gan yr awdur am gerddoriaeth opera. Dyma nofel amserol a fydd yn siwr o gynhesu'r galon. Wedi ei haddasu'n grefftus gan Mared Llwyd, llwydda nid yn unig i ddathlu cyfraniad aruthrol mewnfudwyr i'n cymunedau, ond hefyd ein treftadaeth gyfoethog Ewropeaidd fel cenedl yn ogystal. -- Mari Sion @ www.gwales.com

Additional information

GOR009990472
9781912261550
1912261553
Caffi Merelli by G. R. Gemin
Used - Very Good
Paperback
Atebol Cyfyngedig
20181127
296
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Caffi Merelli