Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Yn Fy Lle yn 2006.
Siarad Trwy'i Het yw enillydd Categori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2012 a hefyd enillydd Gwobr Barn y Bobl 2012. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Rai wythnosau yn ol cefais fy hun mewn cynhadledd lenyddol yn Aberystwyth. Yno bu Simon Brooks yn traethu ar ei brofiad diweddar fel un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Datganodd fod rhyddiaith Gymraeg yn mynd trwy rhyw fath o oes aur ond na ellid dweud yr un peth am farddoniaeth gyfoes. Roedd llawer yn y gynulleidfa, fe dybiaf, yn cytuno ag ef er na allai neb chwaith ddweud beth yn union oedd y broblem gyda chynnyrch ein beirdd. Tra oedd y drafodaeth hon yn mynd rhagddi, nid oedd neb ohonom wedi sylwi fod Siarad Trwy'i Het wedi cyrraedd y gynhadledd ac yn llechu'n dawel ar y stondin lyfrau yng nghefn yr ystafell. Dyma un o'r cyfrolau o farddoniaeth Gymraeg fwyaf trawiadol i weld golau dydd ers cryn amser. Nid fod popeth am y llyfr yn berffaith. Ofnaf nad yw'r modd y cafodd y dudalen gynnwys ei chysodi na'r modd y penderfynwyd canoli'r cerddi ar y tudalennau eraill yn gwneud cyfiawnder o fath yn y byd a'r gwaith. Ar ol dweud hynny, rhaid nodi fod hon yn gyfrol swmpus ac mae'r hanes sydd y tu ol i'w chreu yn cyfrannu yn helaeth at ei gwerth a'i harwyddocad. Yng Ngwyl Maldwyn 2010 Karen oedd enillydd cyntaf Het Goffa Iwan Llwyd a hynny am ysgrifennu marwnad i'r bardd. Un o amodau'r wobr yw profi fod yr het wedi ymweld a mannau diddorol cyn ei dychwelyd yng ngwyl 2011, a dyna sydd wedi ysbrydoli y 52 o ffotograffau yn y gyfrol. Mae'n rhaid cyfaddef mai'r ffotograffau aeth a'm bryd yn gyntaf. Fe'm cyfareddwyd ganddynt ac mae'n rhaid dweud bod yr awdur wedi profi ei hun yn gryn feistr ar dynnu llun. Fe fyddai'r sawl nad yw'n hoffi barddoniaeth yn cael gwerth ei bres o brynu'r llyfr pe na bai ond yn edrych ar y lluniau yn unig. Rhannwyd y gyfrol yn bump adran: Oesol, Gwleidyddol, Pobol, Crwydrol a Beunyddiol. Wn i ddim a ydy'r cerddi yn rhannu mor dwt a hynny chwaith i'r adrannau hyn. Ond yn sicr mae cysgod Iwan Llwyd yn drwm dros y gwaith ac nid y lluniau yn unig sydd i gyfrif am hynny. Mae'r gerdd drawiadol gyntaf, a'r olaf hefyd, yn ymwneud ag ef, heb son am nifer o'r rhai eraill sydd i'w cael yma a thraw yn y gyfrol. Nid yw hyn ond yn profi gymaint fu'r sioc a'r gofid o golli Iwan flwyddyn yn ol i bawb ohonom. Fel Iwan ei hun, mae Karen hefyd yn hoff o grwydro. Mae yma nifer o gerddi sy'n trafod y profiadau ddaw iddi wrth deithio'r ffordd fawr, fel Bywyd ar Gamera, Rhedeg yn Sych a Mwslemiaid yr A55. Dengys y gyfres o gerddi, Cardiau Post o Efrog Newydd iddi gael ei denu, fel Iwan eto, tua'r Gorllewin. Cawn ganddi gerddi dychanol a gwleidyddol (er mai rhai ceidwadol efo 'c' fach yw nifer o'r rhai hynny debygwn i, ac nid yw'r dychan yn taro deuddeg bob tro). Ond drwy'r cerddi cyfoes hyn daw rhywun yn ymwybodol o'i gyrfa fel newyddiadurwraig sy'n gadael ei hol yn effeithiol iawn ar Y Cymro ar hyn o bryd. Daw bardd y filltir sgwar a'r bardd gwlad i'r wyneb mewn cerddi eraill a choffau pobl oedd gwaith y bardd gwlad, wrth gwrs. Yn wir credaf fod Karen ar ei gorau pan fydd yn trafod mynd yn hyn, heneiddio neu'n coffau. Dyna sydd gennym mewn gwirionedd yn Howard Kendall ar Wal y Gegin, Roy Davies, Smocio efo Dic, Printar Islwyn Ffowc, ac Mae yna Hen Ffordd. Mae yna naws oesol i'r cerddi hyn i gyd. Fe ddefnyddia'r bardd amrywiaeth helaeth o fesurau. Mae yma gerddi cynganeddol, yn gywyddau ac englynion, rhai mewn mydr ac odl ac eraill yn y wers rydd. Does gen i ddim amheuaeth mai'r cerddi gyfansoddwyd yn y wers rydd roddodd y pleser mwyaf i min bersonol. O'u plith hwy mae Symud Piano, can serch o fath, yn un sy'n mynnu aros yn y cof. Dyma i ni gyfrol gyfoethog gydag amrywiaeth helaeth o themau a mesurau sy'n profi fod y traddodiad llenyddol Cymraeg yn fyw ac yn iach yn Nyffryn Nantlle o hyd. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com