Bro a Bywyd: Gwynfor Evans by Cyhoeddiadau Barddas

Bro a Bywyd: Gwynfor Evans by Cyhoeddiadau Barddas

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 20% off preloved books right now when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Bro a Bywyd: Gwynfor Evans by Cyhoeddiadau Barddas

This volume, the latest in the Bro and Bywyd series, celebrates the life of one of Wales's twentieth centry heroes. A collection of black-and-white photographs with relevant text tracing the life and work of Gwynfor Evans. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Profodd cyfres Bro a Bywyd yn boblogaidd dros y blynyddoedd gan ei bod, yn fy nhyb i, yn rhoi cyfle i rywun fusnesaOherwydd, mewn un ffordd o siarad, mae’n galluogi’r darllenydd i droi tudalennau llyfrau ffotograffau preifat y person sy’n destun y llyfr ac mae hynny’n bodloni’r voyeur sydd ym mhob un ohonom, er bod rhai yn dewis gwadu neu gwato hynny. Yn achos Gwynfor Evans, efallai nad yw’r profiad hwnnw yn union yr un fath gan ei fod wedi byw cymaint o’i fywyd o flaen llygaid y genedl yr oedd yn pledio ei hachos mor daer. O’r cyfnod pan y’i hetholwyd yn llywydd Plaid Cymru yn 1945 hyd at ei farwolaeth yn 2005, ef oedd prif ladmerydd y cenedlaetholdeb blaengar a rhyddfrydig yr oedd ef ei hun wedi’i greu i raddau helaeth iawn. Mae’r gyfrol yn adlewyrchu hynny yn dda trwy gofnodi’r Gwynfor cyhoeddus yn mynd o un ymgyrch i’r llall: Trawsfynydd, Capel Celyn, Senedd i Gymru, etholiadau lleol a chyffredinol (gan gynnwys isetholiad Caerfyrddin 1966), ac Ympryd y Sianel. Mae’r gyfrol hefyd yn cofnodi ei fywyd preifat cynnar yn y Barri a’i fywyd gyda’i wraig, Rhiannon, a’r teulu yn y Dalar Wen, Llangadog. O gwmpas y ffotograffau hyn mae’r golygydd, Peter Hughes Griffiths, wedi ychwanegu stôr o wybodaeth ddefnyddiol ac wedi plethu ynghyd nifer o ddyfyniadau difyr o hunangofiant Gwynfor ei hun, Bywyd Cymro, a chofiant gorchestol Rhys Evans, Rhag Pob Brad. I’r sawl sydd eisiau cyflwyniad byr a hwylus i fywyd a gwaith Gwynfor Evans, dylai’r gyfrol hon fod yn ddefnyddiol iawn. Mae i’r gyfrol rai gwendidau. Os rhywbeth, y mae gormod o luniau yn y gyfrol ac o’r herwydd mae nifer ohonynt yn cael eu hatgynhyrchu yn rhy fach i neb fedru adnabod yr wynebau niferus mewn llawer o’r portreadau grŵp. Nid oes modd chwaith i’r darllenydd chwilfrydig olrhain y ffotograffau i’w ffynhonnell – bydd hyn yn golled i ymchwilwyr yn y dyfodol wrth iddynt geisio dod o hyd i'r ffotograffau yma unwaith eto. -- Lyn Léwis Dafis @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396152
Title Bro a Bywyd: Gwynfor Evans
Author Cyhoeddiadau Barddas
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2008-09-04
Number of pages 120
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.