Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest
The feel-good place to buy books

Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest by T James Jones
A collection of autobiographical articles which look at the milestones in the life and works of one of Wales' most prominent writers as he reaches his eightieth birthday. Nearly 40 black and white photographs are also included. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Un o theorïau llenyddol mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif oedd honno a gyflwynwyd gan Roland Barthes yn ei draethawd, ‘La mort de l’auteur’Honnai Barthes na ddylid troi o gwbl at fywyd yr awdur, ei farn wleidyddol, ei grefydd, ei genedligrwydd na’i seicoleg, na chwaith y cyd-destun hanesyddol na’r un nodwedd bersonol arall, wrth ddadansoddi’i waith. Fuasai gan Barthes fawr i’w ddweud wrth y gyfrol hon, felly, ond i ni’r Cymry, sy’n hoffi gwybod pwy ydi pwy a beth ydi beth, bydd y dehongliad personol o fywyd a gwaith T. James Jones – Jim Parc Nest – yn apelgar a gwahanol. Gwyddys fod hunangofiannau’n gwerthu’n lleng, a bu galw mawr yn y blynyddoedd diweddar am gofiannau swmpus hefyd – meddyliwch am Saunders, Kate, Bob, Waldo a’r cewri un enw eraill. Yn y gyfrol hon, priodwyd yr hunangofiant poblogaidd gyda’r cofiant swmpus, gan ofyn i’r gwrthrych ddadansoddi’i fywyd a’i waith ei hun. Tipyn o her! Ar y cyfan, mae’r gyfrol yn llwyddo, ond mae hynny am fod yma wrthrych penigamp i gychwyn y gyfres. Ceir dadansoddi treiddgar o ddylanwadau ei fagwraeth ar y llenor, a dyfynnu helaeth (rhy helaeth weithiau) ar ei gerddi. I mi, y penodau gorau oedd y rheiny ble’r âi Jim i’r afael â’i ysgogiad – ei berthynas â gwaith Dylan Thomas, er enghraifft; cafwyd penodau llai gafaelgar tua diwedd y llyfr, ble dododd ei hun mewn magl o ddechrau dyfynnu teyrngedau i aelodau’r teulu, a gorfod dal ati – rhag pechu neb, o bosib. Dyma gyfrol a fydd at ddant darllenwyr hunangofiannau, cofiannau a barddoniaeth. Os yw’r cerddi’n ormod o bwdin i chi, anwybyddwch nhw a pheidiwch â gadael iddyn nhw amharu ar lif y naratif. Ond byddwch ar eich colled, oherwydd mae hi’n werth dyfalbarhau â nhw – mor ardderchog o fardd yw T. James Jones, a chymaint y dylanwadodd ei fywyd ar ei waith. Barthes? Bu yntau farw yn 1980 ... -- Bethan Mair @ www.gwales.com
Ganed T. James Jones yn 1934. Ef yw’r hynaf o ‘fois Parc Nest’. Fel ei frodyr, John Gwilym ac Aled Gwyn, bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr cyn derbyn swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna yn ddiweddarach, fel aelod o adran sgriptiau’r BBC (bu’n olygydd sgriptiau y gyfres Pobl y Cwm). Enillodd Goron y Genedlaethol ddwywaith (Abergwaun, 1986 a Chasnewydd 1988) a’r Gadair yn yr Wyddgrug (2007). Ef oedd olynydd Dic Jones fel Archdderwydd rhwng 2010 a 2013 – a rhagflaenydd yr Archdderwydd presennol.
Ymhlith y cyfrolau o gerddi a gyhoeddodd mae 'Cerddi Ianws Poems', 'Eiliadau o Berthyn', 'Diwrnod i’r Brenin', 'Nawr' ac yn ddiweddarach eleni, 'Cymanfa' (Gwasg Gomer); cyhoeddodd yn ogystal sawl drama a bu’n gyfrifol am gyfieithu 'Under Milk Wood', Dylan Thomas (ymddangosodd pedwar argraffiad o Dan y Wenallt ganddo, y diweddaraf ym mis Mawrth eleni).
Ymhlith y cyfrolau o gerddi a gyhoeddodd mae 'Cerddi Ianws Poems', 'Eiliadau o Berthyn', 'Diwrnod i’r Brenin', 'Nawr' ac yn ddiweddarach eleni, 'Cymanfa' (Gwasg Gomer); cyhoeddodd yn ogystal sawl drama a bu’n gyfrifol am gyfieithu 'Under Milk Wood', Dylan Thomas (ymddangosodd pedwar argraffiad o Dan y Wenallt ganddo, y diweddaraf ym mis Mawrth eleni).
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396756 |
| ISBN 10 | 1906396752 |
| Title | Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest |
| Author | T James Jones |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2014-11-11 |
| Number of pages | 240 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |