Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn by T Arfon Williams

Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn by T Arfon Williams

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 20% off preloved books right now when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn by T Arfon Williams

The complete collection of the strict metre poetry of the late T. Arfon Williams, master of the englyn (four-line stanza), comprising all compositions found in his three earlier volumes together with a number of new englynion not previously published. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Bob blwyddyn yn yr ymryson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyflwynir gwobr arbennig, sef gwobr goffa TArfon Williams, i awdur englyn cywaith gorau’r wythnos. Mae’n arwydd o barch sydd gan y beirdd tuag at Arfon Williams fod cymaint o fri yn cael ei roi ar y tlws arbennig yma. Mae’r parch hwn yn deillio o’r edmygedd mwya sy gan bob englynwr tuag at grefft a dawn Arfon. Wrth edrych ar ei englynion, maen nhw’n rhyfeddu fod y fath bethau’n bosib o fewn deg sill ar hugain. Mae cyflwyniad meistrolgar Emyr Lewis i'r gyfrol hon yn nodi maint cyfraniad y bardd mewn ymryson a thalwrn, ei feddwl chwim a delweddol, a’i hynawsedd bonheddig. Mae hefyd yn manylu ar ambell englyn, ac yn dangos i ni’r cyfoeth meddwl y tu ôl iddyn nhw. Gyda mesur yr englyn y mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n cysylltu enw Arfon Williams, ond yn y gyfrol hon, mae yma gerddi ar fesurau eraill hefyd, yn eu plith hir a thoddeidiau, cywyddau a cherddi vers libre. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg wrth ddarllen y gyfrol ar ei hyd ydi fod yma Brifardd o’r iawn ryw. Mae rhai'n cael y teitl Prifardd trwy fod yn ddigon lwcus i ennill cadair neu goron, ond mae yna ddealltwriaeth anysgrifenedig yn rhywle yn yr isymwybod sy’n derbyn fod rhai yn Brifeirdd heb fod yn gorfod ennill na chadair na choron. Un felly oedd Arfon Willams. Yn y Casgliad Cyflawn hwn, mae yma gerddi o’i gyfrolau cyhoeddedig, ynghyd ag adran o gerddi heb eu cyhoeddi. Mae eu cael i gyd o fewn un gyfrol yn sicrhau fod yma ffynhonnell gyfoethog a chyfleus o weithiau gorau’r bardd. Peth peryglus iawn ydi gorfod dewis un englyn o blith yr holl englynion o fewn y gyfrol yma, ond mae un sy wedi mynnu aros yn y cof ers i mi ei glywed gyntaf, a hynny ar gyfrif ei ddelweddu hollol syfrdanol: ‘Ewyn’ Pan chwery chwa oddi uchod â’r môr mae hen angenfilod y dwfn i’r wyneb yn dod i’w haileni’n wylanod. Mae haenau o ystyron i’r englyn hwn, ond does ond angen gwrando arno i glywed y gwahaniaeth rhwng y dechrau a’r diwedd. Mae’r cytseiniaid cras sy yn y paladr yn taro rhywun yn syth, o’u cymharu â llyfnder llwyr yr esgyll. Bydd gan bob darllenydd ei ddehongliad ei hun, a dyna ei gryfder. Ewch ati i ddarllen mwy. Mae gwledd yn eich aros. -- Tudur Dylan Jones @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781900437585
ISBN 10 1900437589
Title Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn
Author T Arfon Williams
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2003-07-01
Number of pages 248
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.