Hen Ieithoedd Diflanedig by Mihangel Morgan

Hen Ieithoedd Diflanedig by Mihangel Morgan

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 20% off preloved books right now when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Hen Ieithoedd Diflanedig by Mihangel Morgan

A volume of poetry by Mihangel Morgan comprising a series of twenty poems which look at various languages that face extinction. The subject of each poem is the alleged last speaker of each minority language. Through the poet's imagination, we hear the voice of the peoples facing losing their indigenous languages and their standpoint towards each disappearing language. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Mewn cyfnod pan fo bywyd yn teimlo'n fwy brau ac ansicr nag erioed, a seiliau a gwerthoedd gwladwriaethau a llywodraethau fel pe baen nhw'n cael eu troi ben ucha'n isaf, efallai nad yw'n syndod mai testun pedwaredd gyfrol o gerddi Mihangel Morgan yw ieithoedd lleiafrifol a'u gafael bregus hwythau ar fywydI gyfleu ei neges, defnyddia 'leisiau' yr unigolion hynny oedd y rhai olaf i yngan geiriau'r amrywiol ieithoedd dan sylw, gan gynnwys yr Ubych a siaredid yn Nhwrci, a'r Norn, iaith Ogledd-Almaenig a siaredid ar ynysoedd Orkney a Shetland. A chynhwysir hefyd gylch o gerddi am y Fanaweg ar ddiwedd y gyfrol, gan ddefnyddio 'lleisiau' unigol penodol. Er iddo gydnabod fod y Fanaweg, fel Cernyweg, wedi profi rhywfaint o adfywiad yn ddiweddar, mae'r bardd yn cyfiawnhau eu cynnwys yn y gyfrol gan na fu'r iaith yn un 'draddodiadol gymunedol' yr ynys ers saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Wrth gyflwyno'r cylch o gerddi dywed mai ffrwyth dychymyg ydynt i raddau helaeth ac nad yw ei wybodaeth am yr ynys yn un fanwl iawn. Felly hefyd yn ei ragair, mae'n onest, agored wrth gyfaddef mai 'ychydig o ymchwil' a wnaeth i'r unigolion y rhoddodd lais iddynt – cyfaddefiadau dadleuol, o bosib, a allai arwain rhai i'w gyhuddo o ddiogi. Ond penderfyniad bwriadol fu hyn ar ei ran, meddai; defnyddiodd ambell fanylyn am yr unigolion hyn yn sbardun i'w ddychymyg hedfan. Er mai trafod diflaniad ieithoedd y mae'r bardd, pwnc allai esgor ar gerddi dwys a thrymaidd, mae naws ymgomiol, anffurfiol i nifer ohonynt a thinc ac idiom y Gymraeg fyw yn gwau drwy'r cyfan. Yn wir, dywed y bardd yn ei ragair mai'r Gymraeg a'i sefyllfa hi oedd ar ei feddwl wrth lunio'r cerddi. A'r Gymraeg ddaeth i'm meddwl yn syth wrth ddarllen 'Asgwrn y Gynnen', er ei bod yn trafod iaith leiafrifol a ddiflannodd o Fecsico. Yma, cyfleir y tyndra rhwng y 'purydd' sy'n mynnu dal gafael ar ffurfiau traddodiadol yr iaith a'r 'rhyddfrydwr' sy'n fodlon llacio fymryn ar y ffrwynau er mwyn parhad a datblygiad yr iaith. '... dyw e ddim yn dweud "cyfarfod" / Ond "cwarfod", / Ac mae'n mynnu dweud "gafrod" / Yn lle "geifr". Swnio'n gyfarwydd? Allwn i ddim peidio â meddwl chwaith am waith hanfodol Sain Ffagan yn cofnodi amrywiol dafodieithoedd Cymru ar dâp ar hyd y blynyddoedd wrth ddarllen y llinellau hyn yn y gerdd 'Ned Maddrell': 'Nid mewn ogof y sibrydodd ei gyfrinach / Eithr i glust blastig rhyw declyn o drobwll / Ac wrth un o'r newydd-ddyfodiaid, dieithryn / A gasglai hen eiriau fel cregyn traeth...' Arhosodd pennill olaf iasol 'Tef-ffic Esens' gyda mi hefyd: 'Crwydraf o neuadd i neuadd / Drwy balas ysblennydd fy ngramadeg / Heb gwrdd â neb.' Dwyster? Oes, yn naturiol, ond gwelwn fflachiadau o ddireidi nodweddiadol yr awdur yma a thraw hefyd, ac mae cyffyrddiad ysgafn, cyson y dylunydd Olwen Fowler yn llinyn arian sy'n ychwanegu at undod y gyfrol ac yn wrthbwynt i ambell wirionedd sy'n anghyfforddus i'w dreulio. -- Annes Glynn @ www.gwales.com
Mae Mihangel Morgan yn ysgolhaig, yn llenor ac fardd adnabyddus. Wedi cyfnod fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, mae bellach yn byw yn Aberdâr. Cyhoeddodd gasgliadau o farddoniaeth ar ddechrau ei yrfa lenyddol, sef Diflaniad Fy Fi yn 1988 a Beth yw Rhif Ffôn Duw? yn 1991. Rhyddiaith – nofelau a straeon byrion – fu ei brif gyfrwng wedi hynny, ond fe ddychwelodd at farddoniaeth rai blynyddoedd yn ôl gyda chyfrol ddigri i blant, Creision Hud, yn 2001 a’r gyfrol ddychanol Digon o Fwydod yn 2005. Mae Hen Ieithoedd Diflanedig yn gyfrol newydd sbon o farddoniaeth sy’n archwilio pwnc trist a brawychus, sef tynged gwahanol ieithoedd lleafrifol ar draws y byd.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584209
ISBN 10 1911584200
Title Hen Ieithoedd Diflanedig
Author Mihangel Morgan
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2018-09-24
Number of pages 64
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.