
Llyfr Gwyn by Gwyn Thomas
In the second of a literature biography series which is a tribute to litterateurs, the poet, lecturer and university professor Gwyn Thomas discusses his life and the influences on his work. 72 black and white illustrations. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Hunangofiant llenyddol Gwyn Thomas yw hwnMae’n wir bod y gwrthrych eisoes wedi llunio hunangofiant traddodiadol yn Nhachwedd 2006. Ond y tro hwn, yn ail gyfrol Cyfres Llenorion Cymru gan Barddas, ceir hanes y bardd a’r ysgolhaig o safbwynt ei gynnyrch llenyddol, gyda dyfyniadau niferus o’r gweithiau hynny, ynghyd â lluniau sy’n ychwanegu at ein diddordeb a’n dealltwriaeth. Yn naturiol, mae dechrau’r daith, fel yn hanes Meredydd Evans, yn Nhanygrisiau, sydd, fel y deallwn, yn lle cwbl ar wahân i’r drefedigaeth fwy, ‘tros y ffordd’, sef Blaenau Ffestiniog. Y mae gan y bardd ddehongliad onest a chignoeth o’i fro enedigol mewn cerddi fel ‘Blaenau’ a ‘Cwmorthin’, ac y mae’n amlygu ei barch a’i gydymdeimlad â’r chwarelwr, ac â’r tirlun o’i gwmpas. Mae diddordebau’r bardd mewn geiriau, ei ddiddordeb chwareus yn wir, gyda’r iaith heddiw a’r dull y mae’n datblygu ar lafar, yn amlwg; ac mae’r wedd lafar hon, ynghyd â’r elfen chwareus, yn britho ei gynhyrchion. Cawn hefyd fewnwelediad i gred a bywyd ysbrydol y bardd – peth digon prin erbyn heddiw a dewr o wrthffasiynol. Wedi trafod ei hynafiaid a’i addysg, cawn benodau ar y ddrama, mythau a symbolau, ffilmiau, natur a chaneuon, a chawn weld sut yr ymddiddorodd Gwyn Thomas yn y meysydd hynny a sut y dylanwadwyd ar ei gynnyrch llenyddol gan y pynciau hynny, a chan wahoddiadau i lunio geiriau a chyfrolau gan gydweithio â’r arlunwyr John Meirion Morris a Margaret Jones, y cerddor William Mathias, ynghyd â rhai o gynhyrchwyr y BBC. ‘Diymhongar’ yw’r gair sy’n aros wedi darllen y gyfrol. Mae Gwyn Thomas yn medru rhoi’r argraff, gyda gwên ac elfen o litotes, ei fod yn ddidaro ac yn ystyried bywyd yn ysgafn a chwareus. Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir, a’r hyn y mae’n llwyddo i’w amlygu, yn ei farddoniaeth ac yn y gyfrol hon, yw ei wir gonsýrn dros ei gynefin, ei iaith, ei wlad, ei gredo, a’i deulu. Yn wir dyma gyfrol hanfodol i bawb a fyn ddeall gwaith y bardd. -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com
Gwyn Thomas was born in Blaenau Ffestiniog in 1936. He was educated at Bangor University College, and then Jesus College, Oxford. Having moved to Bangor, he was apointed member of staff in the Welsh Department at Bangor University for a number of years, and was head of department before he retired. He continues to be a productive author whose work communicates with a wide audience.|Ganed Gwyn Thomas ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ymgartrefodd ym Mangor a bu'n aelod o staff Adran y Gymraeg am sawl blwyddyn ac yn bennaeth adran, cyn ei ymddeoliad. Y mae’n parhau i fod yn llenor cynhyrchiol sy’n siarad â chynulleidfa eang.
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396862 |
| ISBN 10 | 1906396868 |
| Title | Llyfr Gwyn |
| Author | Gwyn Thomas |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2015-10-23 |
| Number of pages | 218 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |