Paradwys by Wiliam Owen Roberts

Paradwys by Wiliam Owen Roberts

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 10% off preloved books when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Paradwys by Wiliam Owen Roberts

An epic novel set in London, Paris and the West Indies in the 18th century relating the story of a rich and influential family who have many dark secrets to hide. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Paradwys Paradwys (Paradise) is Wiliam Owen Robert's third novelWith it Roberts confirms his reputation as a major literary figure on the international stage. Paradwys is set in the final quarter of the eighteenth century against the backdrop of the French and American revolutions when Tom Paine wrote his Rights of Man, opposition to the slave-trade was rising, and the idea of an industrial revolution was crystallizing in the minds of English aristocrat-capitalists. Central to the book is Earl Foston, a larger then life figure who wishes to have his biography written, but why by a bankrupt wallpaper merchant on the verge of suicide? As the tale inches towards the answer to this question, the darker side of Earl Foston is revealed, and we step into hidden chambers in the catacomb of the Hobart dynasty. Paradwys belongs to the genre of the historical novel, but its relevance is not limited to the period in which it is set. 'What a glorious thing to see the mighty feet of commerce stepping through the world to stamp civilisation on the most desolate of countries which lie at the extremities of the oceans?' thinks Earl Foston, owner of great sugar plantations worked by African slaves in the Caribbean Islands. Wiliam Owen Robert's tour de force while relevant to today's world is not a political tract. His immediate concern is to tell the story of Polmont, Earl Foston's biographer. Polmont leaves no stone of history unturned, and discovers himself to be the son of the Earl's degenerate twin-brother. The biographer bows in awe to the great Earl at first, but soon finds himself in disagreement with his views. The hostility between the two men, uncle and nephew, culminates in murder and manslaughter in North Wales as the Earl rides a white horse through the clouds. Paradwys, with its colourful plot, attention to detail, and sophisticated characterisation, is as important a novel as has been written in Welsh. In it, Wiliam Owen Roberts has forged his own bristling idiom which launches the Welsh language into the twenty-first century. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Mawr fu’r disgwyl am y nofel hon, ac mae hi wir yn werth yr aros! Yn 467 o dudalennau, mae hi’n glamp o nofel ac yn ganwaith maint a sylwedd y rhan fwyaf o nofelau eraill yn y Gymraeg. Ni ellir ond canmol a diolch i’r awdur am ei lafur unwaith eto yn rhoi’r fath glasur inni. Mae pob tudalen o’r nofel bron fel plisgyn nionyn, ac wrth i un stori arwain i’r llall teimlir ar adegau ein bod yn darllen ar yn ôl wrth fynd ymlaen, ac wrth i un dirgelwch ar ôl y llall gael ei ddatgelu, rydym fel darllenwyr yn gorfod ailystyried beth yw beth a phwy yw pwy. Fel yn nofel flaenorol yr awdur, sef Y Pla, nid oes yma ganol llonydd o bell ffordd ac ni ellir cymryd dim yn ganiataol wrth i’r awdur chwarae’n gyson â disgwyliadau’r darllenydd (gan gynnwys hunaniaeth ‘bwysig’ a digyfnewid y prif gymeriad). Yn wir, mae tebygrwydd mawr rhwng hon a’r nofel arall, yn bennaf o ran gweledigaeth Farcsaidd yr awdur ynglŷn â pherthynas economaidd a chymdeithasol dynion â’i gilydd, ac yn y bôn mai cyfalafiaeth sy’n rheoli’n byd wrth i’r rhai â chyfoeth fod â’r pŵer. Tra bod Y Pla wedi’i lleoli yn yr Oesoedd Canol pan welwyd diwedd ffiwdaliaeth a dechrau marchnad rydd, ceir y cam nesaf yn hanes dynoliaeth yn Paradwys, sef dangos sylfeini cyfalafiaeth fel y’i hadwaenir heddiw. Allweddol yw’r geiriau yn y blyrb ar gefn y llyfr sy’n nodi mai nofel a luniwyd yn niwedd yr ugeinfed ganrif yw hon, gan ei bod yn wir yn nofel gyfoes. Nod yr awdur yw dangos bod yr ideoleg oedd ar waith yn y ddeunawfed ganrif (i gynnal caethwasiaeth yn un peth) yn dal ar waith yn y byd sydd ohoni, sef mai grym cyfalafol bydeang sy’n rheoli’n bywydau a bod rhai unigolion neu ‘gwmnïoedd’ yn defnyddio’u cyfoeth a’u statws er cyfreithloni a chynnal trefn gymdeithasol anghyfiawn gan fynnu ei fod yn synnwyr cyffredin. Drwy ddadleuon Miss MacFluart yn bennaf, trafodir grym cyfoeth a’r modd y mae’n manteisio ar eraill, yn enwedig ar wledydd llai breintiedig: ‘Sawl ffowndri a ffactri sy’n cynhyrchu arfa i’w gwerthu i lwythi yn Affrica yn gyfnewid am gaethion? . . . Pam ’dach chi hefyd yn trio trwyddedu gwerthu i fyddin Ffrainc? Nhwytha byth a hefyd yn brwydro yn ein herbyn ni?’ Ac ar ddiwedd y nofel, drwy ddwyn teulu Richard Pennant i bartneriaeth ag Iarll Foston, gwneir hi’n hollol glir bod Cymru hefyd yn rhan o’r drefn gyfalafol anghyfiawn hon. Fel yng ngweithiau blaenorol Wiliam Owen Roberts, ceir procio ynglŷn â natur gwirionedd – a chan fod y prif gymeriad yma yn llunio Cofiant, cwestiynir rôl adrodd storïau wrth ddehongli ac ystumio’r gwir. Mae hanfod y natur ddynol hefyd dan sylw, ac yn y nofel hon awgrymir bod angen i ni ymdrwytho mewn cyfiawnder a chydwybod, ac nid yn y ffydd Gristnogol: ‘Ni fyddai arnom angen hyd yn oed y ffydd Gristnogol petai cwrs y byd yn canlyn llwybra cyfiawnder; byddem oll yn byw ym mharadwys.’ Ond rhag i neb ddychryn a thybied nad oes dim heblaw damcaniaethau mawr yn y nofel, dyma i chi hefyd nofel sy’n hynod ddarllenadwy, a’r storïau bychain a’r myrdd o gymeriadau yn ffrwtian hyd y tudalennau. Mae dawn Wiliam Owen Roberts fel dramodydd yn hollol amlwg yn y ddeialog ystwyth a hollol gredadwy, yn ogystal â’r arfer o ddechrau pob ‘golygfa’ â’r lleoliad neu’r cyd-destun (e.e. ‘Wedi swperu’; ‘Y Llyfrgell’; ‘Drannoeth’). Mae’r iaith yn tasgu mewn ffresni ac asbri, ac ni ellir ond dotio at rai troeon ymadrodd, e.e ‘Teimlai Walton Herbert ei fod wedi ei synsyfrdan; ei feddwl yn penglwcio.’ Ni welaf bwrpas mewn talfyrru geiriau i gael arddull lafar (e.e. ‘dyddia’, ‘modrwya a chlustdlysa’) a byddwn wedi gwerthfawrogi rhestr o gymeriadau i’m hatgoffa pwy oedd pwy, ond hen grafu arwynebol ar homar o nofel dda ydi hynny. Dwi’n edrych ymlaen yn barod at gael darllen nofel nesa Wiliam Owen Roberts, a dwi’n fodlon aros deng mlynedd arall am y pleser o wneud hynny – ond yn y cyfamser rhaid ailddarllen Paradwys eto ac eto. -- Gwenllïan Dafydd @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781900437509
ISBN 10 1900437503
Title Paradwys
Author Wiliam Owen Roberts
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2001-12-06
Number of pages 467
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.