Storm, Y by William Shakespeare

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
The feel-good place to buy books
  • Free UK delivery over £5
  • 10% off preloved books when you join +Plus
  • Buying preloved emits 46% less CO2 than new
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Storm, Y by William Shakespeare

A translation of William Shakespeare's The Tempest, published to coincide with a production of the play by Theatr Genedlaethol Cymru at the 2012 National Eisteddfod in the Vale of Glamorgan. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Mae 'Y Storm' yn gyfieithiad newydd o glasur ShakespeareDewisiwyd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama hon (a berfformir mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru) i fod yn Rhan o Wyl Shakespeare y Byd (World Shakespeare Festival), sy'n un o Ddigwyddiadau'r Olympiad Diwylliannol eleni.
Am fwy o fanylion am y ddrama, gweler gwefan Theatr Genedlaethol Cymru: http://www.theatr.com/cy/newyddion.
Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o’r diwedd i frawd ddial ar frawd. Mae Ariel yn barod i dalu’r pwyth yn ôl gyda chorwynt a dŵr a thân. Ar fôr tymhestlog, gweddïa Antonio am ei einioes, wrth i Prospero wylio’r cyfan o’r tir.
Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero ar ffair wyllt o gwmpas yr ynys wrth iddo wneud yn siŵr, trwy hud a lledrith a phŵer ei holl enaid, fod y wers wedi’i dysgu.
The Tempest oedd y ddrama olaf i Shakespeare ei chyfansoddi. Cyfleir holl gynildeb a dyfeisgarwch y clasur hwn yn addasiad newydd Gwyneth Lewis ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Mae yna draddodiad hir o gyfieithu gweithiau mawr yr iaith Saesneg i’r Gymraeg. Yn ôl rhai, proses sydd o reidrwydd yn colli swyn a rhai o haenau ystyr y testun gwreiddiol yw cyfieithu llenyddiaeth, ond mae’r cyfieithiadau mwyaf crefftus yn rhai sy’n medru cyfoethogi ystyr gwaith. Mae gan gyfieithydd y grym i ailddychmygu gwaith llenyddol, gan ei agor i holl ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol iaith arall. Mae Gwyneth Lewis yn llenor sy’n hollol ymwybodol o’r broses hon, fel un sydd wedi ymdrin â’i dwyieithrwydd yn greadigol ar hyd ei gyrfa lenyddol, ac roedd penderfyniad Theatr Genedlaethol Cymru i’w chomisiynu i greu cyfieithiad newydd o The Tempest gan William Shakespeare yn un ysbrydoledig. Does dim syndod, felly, mai ‘addasiad’ yw Y Storm yn hytrach na ‘chyfieithiad’. Yn ei ragarweiniad difyr i’r gyfrol, mae cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffudd, yn ategu’r pwynt gan ofyn ‘onid addasiad, mewn gwirionedd, yw pob cyfieithiad o destun celfyddydol?’ Camp fwyaf yr addasiad hwn yw’r modd y mae Gwyneth Lewis yn defnyddio iaith fodern ddealladwy i ddehongli’r ddrama brydferth a grymus hon o’r newydd ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, gan lynu at galon farddonol y gwaith Shakespearaidd gyda’i rythmau mydryddol a’i ymadroddion trosiadol yr un pryd. Plethir ieithwedd lafar a thafodieithol gydag ymadroddion sy’n cyfleu naws fwy urddasol barddoniaeth yr areithiau. Mae ymdeimlad naturiol bardd at fydr hefyd yn amlwg yn y gwaith. Dyma sut y cyfieithodd Gwyneth Lewis gân Ariel yn yr act gyntaf: Yn y dyfnder mae dy dad, Cwrel yw ei esgyrn o; Dyna berl lle bu ei lygad, Mae pob elfen sydd yn gwywo Yn trawsnewid fel y môr Nid trengi ond troi’n drysor. O edrych ar y llinellau gwreiddiol mae arddull ac ymagwedd yr awdur at y dasg o gyfieithu testun llenyddol yn amlwg. Full fathom five thy father lies; 
 Of his bones are coral made; 
 Those are pearls that were his eyes: 
 Nothing of him that doth fade, 
 But doth suffer a sea-change 
 Into something rich and strange. Mae’n cadw’n driw i ystyr geiriau Shakespeare heb gyfaddawdu ar yr angen i greu gwaith sy’n sefyll ar ei draed ei hunan fel gwaith llenyddol Cymraeg. -- Sioned Williams @ www.gwales.com
Mae Gwyneth Lewis yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Hi oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth gyda Barddas hyd yma: 'Cyfrif Un ac Un yn Dri'(1996);'Y Llofrudd Iaith'(2000) a 'Tair Mewn Un'(2005). Dyfarnwyd iddi un o Ysgoloriaethau Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2011 ac mae ar hyn o bryd wrthi'n gweithio ar ei chyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth Gymraeg.
Gwyneth gyfansoddodd y geiriau sydd i’w gweld ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Yn 2010 enillodd wobr Cholmondely y Gymdeithas Awduron, yn gydnabyddiaeth am gorff o waith nodedig.
Mae Gwyneth hefyd wedi ysgrifennu geiriau dwy opera i blant ac oratorio i Gorws Opera Genedlaethol Cymru a chantorion amatur. Ysgrifennodd ddwy ddrama radio i BBC Radio 4 a perfformiwyd ei drama lwyfan gyntaf, Clytemnestra, gan Sherman Cymru yn 2012.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396497
ISBN 10 1906396493
Title Storm, Y
Author William Shakespeare
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2012-07-31
Number of pages 80
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.