
Talwrn y Beirdd 11 - Pigion y Talwrn by Cyhoeddiadau Barddas
A collection of diverse serious and lighthearted poetry prepared by various poets throughout Wales for the popular radio series 'Talwrn y Beirdd', comprising poetry in free and strict metres. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Blwyddyn hunllefus oedd 1979 i lawer ohonomCymru benbaladr, o Wynedd i Went, yn gwrthod datganoli, a Maldwyn a Môn yn cynorthwyo Thatcher i ddod yn Brif Weinidog. Ond, fel golau yn y gwyll, yn 1979 hefyd cychwynnwyd darlledu Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Roedd yr amseru’n berffaith. Annedwyddwch yn amlach na pheidio sy’n cynhyrfu awen y bardd a’r dychanwr. Soniwyd llawer am y zeitgeist, sef ysbryd yr oes; bu’r Talwrn yn sicr yn llwyfan i’n digofaint ac yn fodd i hybu ysbryd gwrthryfel mewn cyfnod anodd. Ac yn fodd, rhaid cofio, i gael llawer iawn o hwyl. Perthyn i dalyrnau 2000–2005, cyfnod hollol wahanol yn ein hanes, mae’r casgliad hwn o gynnyrch y Talwrn. Addewir y bydd detholiad o gerddi 2005–2010 yn ymddangos y flwyddyn nesaf. Fel y gellid disgwyl, mae gwrandawyr rheolaidd y gyfres yn mynd i gael pleser di-ben-draw yn pori yn y casgliad diweddaraf hwn. Ac eto, wn i ddim ydi’r hyn mae Gerallt wedi ei ddisgrifio fel yr ebychiad “Ooo”, y fflach honno o wychder gwirioneddol syfrdanol, i’w chael mor aml erbyn hyn. Dafydd Wyn Jones, Bro Ddyfi, oedd consuriwr amlycaf yr “Ooo”. Ai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith nad oes yr un o’i gywyddau yn y casgliad hwn? Newid arall ers y dyddiau cynnar yw’r nifer o ferched sydd bellach yn cymryd rhan. Yn wir, y tro hwn merched a luniodd rhai o gerddi mwyaf grymus y gyfrol. Meddyliaf yn arbennig am gywyddau Nia Powell, `Amser’ a Karen Owen, `Cyfeillach’. Mae Karen wedi mynegi un wedd arswydus ar fyd ac ar anfadwaith nad oedd yn bod yn 1979 – byd pedoffiliaid y we. Fel y soniais ar y cychwyn, dyheu a breuddwydio am fesur o hunanlywodraeth a wnâi talyrnwyr y cyfresi cynnar. O wybod hynny, eironig iawn yw darllen condemniad carlamus Twm Morys: `Enillwyd y Cynulliad/Ond o’i gael o, collwyd gwlad'. Cof byr sydd gennym yntê? -- Vaughan Hughes @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396343 |
| ISBN 10 | 1906396345 |
| Title | Talwrn y Beirdd 11 - Pigion y Talwrn |
| Author | Cyhoeddiadau Barddas |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2010-11-12 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |