Fel mae teitl y nofel hon yn ei awgrymu, mae hud yn thema gref yn y gyfrol wych hon. Ar y cyfan, ni chaiff y thema hud a lledrith lawer o sylw mewn llyfrau Cymraeg, ond mae'r nofel hon yn llenwi rhywfaint ar y bwlch hwnnw trwy gynnig y cyfle i ddarllenwyr ymgolli'n llwyr mewn byd ffantasi llawn hud a dirgelwch. Mae'r stori yn canolbwyntio ar antur un diwrnod i ddau gymeriad sy'n ffinio ar daro'r glasoed. Yn gyntaf, cyflwynir Llyr i ni, dewin yn ei arddegau sy'n ysu am antur a chyffro yn ei fywyd. Yn ail, cyflwynir Don, sef merch ddeuddeg oed sy'n byw mewn byd hollol wahanol i Llyr, er eu bod yn byw dafliad carreg o'i gilydd. Mae'r ddau yn perthyn i ddau lwyth gwahanol iawn o bobl - mae Llyr yn un o'r Dewiniaid a'u byd o swyn, a Don yn un o'r Rhyfelwyr sy'n ymwrthod yn llwyr a hud. Yn fuan yn y stori, daw'r ddau i gyswllt am y tro cyntaf erioed, a chaiff y darllenydd ymuno ar antur sy'n arwain trwy ddau fyd ffantasiol cyffrous. Wrth i'r antur fynd rhagddi, cyflwynir cymeriadau o bob lliw a llun - cigfran ddoeth o'r enw Crawchog; cawr enfawr o'r enw Dolur; tylwyth twp gydag enwau fel Pry-pi a Cachgibwgan; cath eira i'w marchogaeth; bleiddiaid; arth; ysbrydion; gwrach sydd a hud drwg; ac anifail anwes sy'n llwy hudol! Oes - mae creadigrwydd a dychymyg hynod tu cefn i'r cymeriadau amrywiol hyn! Rhaid canmol creadigrwydd yr awdur wrth enwi'r holl gymeriadau difyr hefyd; mae yma ddefnydd o eirfa ddiddorol a lliwgar drwyddi draw, gan fentro'n bell o'r Saesneg gwreiddiol a rhoi blas trwyadl Gymreig ar y cyfan. Fel y gellid dychmygu o ddarllen rhai o'r enwau doniol, mae tipyn o hiwmor i'w gael rhwng cloriau'r gyfrol hefyd, wrth i ambell gymeriad wneud penderfyniadau twp neu ddweud pethau dros ben llestri - mae'n amhosib peidio chwerthin yn uchel ar adegau! Elfen arall sy'n gwneud y nofel yn bleser i'w darllen yw'r defnydd o luniau, sgetsys, a mapiau. Does dim llawer iawn o dudalennau dwbl sydd ddim yn cynnwys yr elfen ddiddorol hon - mae'n ychwanegu ychydig o hwyl i'r darllen, ac yn sicrhau nad yw'r nofel yn teimlo'n faich i'w darllen, er mor drwchus yw'r gyfrol, sy'n allweddol bwysig o gofio mai apelio at ddarllenwyr iau yw'r nod. Mae hefyd yn ychwanegu at gynnwys y stori, gan gynnig lluniau o'r creaduriaid hynod er mwyn cynorthwyo'r dychymyg, ac esboniadau pellach ar faterion megis swynau hudol. Dyma'r gyntaf yng nghyfres Yr Hudlath a'r Haearn; os ydych chi'n mentro i fyd y nofel hon, byddwch yn sicr yn awchu i bori drwy'r gyfres gyfan. -- Awen Schiavone @ www.gwales.com