
100 o Englynion by Dafydd Islwyn
A hundred 'englyn' (four-line stanza) by a hundred different Welsh language poets. Dafydd Islwyn has brought together his favourite 'englyn' by each one of these bards, and offers a discussion about each poem. This is a compilation by one who is deeply associated with Welsh poetry. -- Cyngor Llyfrau Cymru
‘Cant o englynion gan gant o englynwyr’ – dyna'r addewid ym mroliant y gyfrol honOnd mae ynddi fwy na hynny. Cewch ymhell dros gant o englynion i ddechrau, ynghyd â sylwadau'r awdur am y beirdd a'i resymau personol dros y dewis. Tasg fentrus ryfeddol ydy dewis y deg, ugain, neu'r cant gorau o unrhyw beth, mewn unrhyw faes. Mewn gwlad sy'n goferu o englynion, a detholwyr lleyg yn llechu tu ôl i bob Odliadur, bu Dafydd Islwyn yn ddigon doeth i nodi mai ei ddewis ei hunan o'i ‘hoff englyn gan bob un o'r englynwyr’ sydd ganddo. Cystal i ni gofio hynny wrth bori drwy'r casgliad. Yn wir, gallwch ryfeddu at ambell englyn mwy annisgwyl na'i gilydd, neu synnu na chafodd eich hoff englyn chi, gan eich hoff fardd, ei gynnwys – ond dyma, wedi'r cwbl, ddewis Dafydd – cofnodwr barfog y marciau yn ymrysonau y Babell Lên i rai, ysgrifennydd diflino Barddas i eraill. Os digwydd i chi gael eich gwahodd i fod mewn cwis ac iddo naws lenyddol, yna purion fyddai i chi ymbaratoi yng nghwmni'r gyfrol hon! Ynghlwm wrth yr englynion mae sylwadau – ‘trafodaeth’ yw'r gair yn y broliant – sy'n cynnwys manylion am y bardd, cefndir yr englyn neu hanes yr achlysur a sbardunodd y gwaith. Mae yma beth wmbredd o ffeithiau a gasglwyd gan y wiwer o Fonwysyn Cwm Rhymni – rhai'n atgofion personol, rhai o bwys hanesyddol a rhai'n deilwng o fod yn gwestiwn a allai eich llorio mewn cwis. Un rhybudd! Ambell dro mae Dafydd Islwyn yn crwydro’n gwbl naturiol at englyn neu fardd arall – neu hyd yn oed feirniaid ac archdderwyddon y gorffennol – felly peidiwch â phendwmpian wrth ddarllen, rhag i chi golli'r trywydd a phriodoli ffaith i englynwr anghywir yn eich atebion cwis! -- Ifan Roberts @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396039 |
| ISBN 10 | 1906396035 |
| Title | 100 o Englynion |
| Author | Dafydd Islwyn |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2009-03-25 |
| Number of pages | 168 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |