Bardd ar y Bel - Y Lon i Lyon by Llion Jones

Bardd ar y Bel - Y Lon i Lyon by Llion Jones

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A series of twitter poems - and a few cywyddau - which follow the Wales Football team to the semi-final of the Euros 2016 in France. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Bardd ar y Bel - Y Lon i Lyon by Llion Jones

A series of twitter poems - and a few cywyddau - which follow the Wales Football team to the semi-final of the Euros 2016 in France. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Llyfr sy'n dal blas o haf hynod 2016 ac sy'n dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ar bob cam o'r daithDyma @Llion Jones ar ei orau yn cofnodi penllanw un o'r cyrchoedd meithaf yn hanes diweddar tîm pêl-droed Cenedlaethol Cymru. Gyda lluniau trawiadol gan ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bel-Droed, mae'n gofnod gwerthfawr o gamp Chris Coleman a'i dim. Mae'r gyfrol yn gyfuniad cyffrous o gerddi slic gan drydarwr poblogaidd a ffotograffau trawiadol gan David Rawcliffe (Propoganda)- ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bêl-droed. Cynhwysir hefyd gyflwyniad byr gan Osian Roberts. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Efallai y bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd â gwaith Llion Jones eisoes. Daeth i amlygrwydd dro’n ôl wrth ddefnyddio gwefan gymdeithasol Trydar i gyhoeddi cerddi byrion a bachog, a hynny mewn cynghanedd. Dros haf 2016, fe gafodd Llion ysgoloriaeth i fynd i Ffrainc i wylio ymdrechion ein tîm cenedlaethol ym Mhencampwriaethau Ewro 2016, ac mae’r gyfrol hon yn ymateb personol i ymgyrch Cymru i gyrraedd y rowndiau terfynol a’r gystadleuaeth wedyn ledled Ffrainc. A dyna gryfder y gyfrol; nid rhoi ysgoloriaeth i unrhyw fardd i gyfansoddi a wnaed; ond bardd o gefnogwr, a chefnogwr pybyr ar ben hynny. A does dim dwywaith fod Llion Jones wedi llwyddo’n arbennig o dda i ddal cyffro’r chwarae, gan lwyddo ar yr un pryd i drosglwyddo’r antur yn fyw i’r darllenydd. Ac rydym yn teimlo’r gorfoledd a’r gwewyr, y gobaith a’r digalondid i gyd i’r byw wrth ddarllen y cerddi hyn. Mae’r rhan fwyaf o’r cerddi wedi ymddangos ar ei ffrwd drydar yn barod, ond mae eu casglu mewn un gyfrol yn syniad da ac mae'n haws olrhain hanes rhyfeddol y tîm cenedlaethol yn sgil hynny. Mae’r rhan fwyaf yn cyfeirio at y gemau eu hunain, ond efallai mai fy hoff ran yw’r darn yn y canol am y chwaraewyr unigol. Dyma’r pennill am gapten Cymru, Ashley Williams: Hwn ein llais, ein nerth a’n llyw, hwn gadarn, ein craig ydyw. Mae diwyg hardd y gyfrol yn ychwanegu tipyn at ei gwerth, ac mae ffotograffau trawiadol David Rawcliffe a dylunio campus Elgan Griffiths yn ddeniadol ac yn gweddu i’r dim. Mae’n bosib y bydd y diwyg a’r pwnc yn denu pobol sydd ddim fel arfer yn prynu llyfrau barddoniaeth Cymraeg, a dwi’n siŵr na chân nhw eu siomi. Ac er gwaethaf y siom a’r tor calon o golli yn y rownd cyn-derfynol yn 2016, mae pennill olaf y gyfrol yn awgrymu nad Ffrainc oedd diwedd y daith, a bod y bardd yn edrych ymlaen at y rowndiau terfynol nesaf: Â’r Ewros nawr ar orwel a Ffrainc tu hwnt i ffarwél, down o’r gogledd ddiwedd ha’ yn ysu am daith i Rwsia. Mae cyflwyniad Osian Roberts, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn gosod y cyfan mewn cyd-destun, a rhaid cytuno gydag ef fod Llion Jones wedi llwyddo i roi 'cyfnod rhyfeddol yn hanes pêl-droed ar gof a chadw, a hynny ar odl a chynghanedd'. Mi fydd darllen y cerddi’n ffordd i lawer ail-fyw eu profiadau personol o fod yn Ffrainc; i eraill, fel fi, bu’n gyfle gwych i ail-fyw yr ail-law. -- Hefin Jones @ www.gwales.com
Llion Jones yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ac ef hefyd yw Is-gadeirydd Barddas. Mae'n gefnogwr brwd i dîm pêl-droed Dinas Bangor, yn ogystal â'r tîm cenedlaethol. Y mae'r Prifardd @LlionJ yn drydarwr bywiog iawn a phrofodd lwyddiant ysgubol gyda'i gyfrol Trydar Mewn Trawiadau gan ennill Gwobr Barn y Bobl yn Nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013. Cyhoeddodd un gyfrol arall o gerddi gyda Chyhoeddiadau Barddas, Pethe Achlysurol yn 2007.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396961
ISBN 10 1906396965
Title Bardd ar y Bel - Y Lon i Lyon
Author Llion Jones
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2016-11-10
Number of pages 56
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.