Beirdd Bro'r Eisteddfod: 3. Beirdd Bro Eisteddfod Maldwyn by Cyhoeddiadau Barddas

Beirdd Bro'r Eisteddfod: 3. Beirdd Bro Eisteddfod Maldwyn by Cyhoeddiadau Barddas

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

In this anthology, edited by Arwyn Davies, we are introduced to Montgomeryshire's poets and their work, and also to the rich heritage of the bardic tradition in the area. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Beirdd Bro'r Eisteddfod: 3. Beirdd Bro Eisteddfod Maldwyn by Cyhoeddiadau Barddas

In this anthology, edited by Arwyn Davies, we are introduced to Montgomeryshire's poets and their work, and also to the rich heritage of the bardic tradition in the area. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Braf oedd gweld y gyfrol Beirdd Bro Eisteddfod Maldwyn yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd â dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i'r fro honno eleniCyfrol debyg yw hon i'w dwy ragflaenydd, a oedd yn cynnwys cerddi gan feirdd Bro Dinbych a Sir Gâr. Golygydd y gyfrol y tro hwn yw Arwyn Groe, gŵr sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn naear Maldwyn, ac sy'n enw ac yn wyneb cyfarwydd i'r rhai sy'n dilyn talyrnau ac ymrysonau. Ar ddechrau'r gyfrol ceir pennod hynod ddifyr gan y prifardd Cyril Jones, o dan y teitl 'Traddodiad Barddol Maldwyn'. Cyfeiria at feirdd fel Ceiriog, Gwallter Mechain, Dafydd Llwyd a'r emynyddes Ann Griffiths, yn ogystal â rhai mwy cyfoes fel Gwilym R. Tilsli, Iorwerth Peate ac Emrys Roberts. Sonnir hefyd am feirdd Eingl-Gymreig fel R. S. Thomas a Wilfred Owen, wrth i Cyril 'deithio'n lled fympwyol ar draws y canrifoedd'. Mae'n cyfeirio at ddatblygiad yr englyn a'r cywydd o gyfnod Llywarch Hen hyd heddiw, ac fel 'mae'r hen fesurau a wreiddiwyd mor ddwfn yn naear Maldwyn yn dal i ffynnu'. Ymlaen at y beirdd a'r cerddi felly. Gwaith tri ar ddeg o feirdd cyfoes Maldwyn sydd yma – un ar ddeg dyn a dwy ferch, ac mae dau ohonynt, Cyril Jones a Penri Roberts, yn brifeirdd. Fel y gellid disgwyl, ceir yma amrywiaeth eang o ran mesurau ac o ran cynnwys, gyda'r englyn yn cael lle amlwg. Un o nodweddion beirdd gwlad ar hyd yr oesau yw mai cerddi cymdeithasol yw llawer o'u gwaith – cerddi i bobl, i achlysuron ac i ddigwyddiadau o fewn cymdeithas, gyda cherddi coffa yn cael lle amlwg. Ac mae amryw o gerddi ac englynion coffa o fewn i'r gyfrol hon, a phob un ohonynt â sglein arbennig arnynt, fel englyn Gwilym Fychan i Edryd, ei gefnder, neu englyn Arwyn Groe i gofio am y prifardd Emrys Roberts. Ond ceir y difyr a'r gogleisiol yma hefyd, fel yr englyn hwn gan Dafydd Wyn Jones, 'Llawdriniaeth': Arwr y da, 'rhen darw du, – yn fustach, Bu'n feistar y beudy, Ni all hwn 'rôl cyllell hy Huw Geraint mwyach garu. Fel cantores yr ydym fwyaf cyfarwydd â Linda Griffiths, a gwyddom fel y mae nifer fawr o'i chaneuon wedi codi o dir a daear ei hoff Faldwyn. A braf yw gweld rhai o’r caneuon hynny yn y gyfrol, a'r gân 'Ôl ei droed' yn arbennig yn cyfeirio at fagwraeth Linda ar fferm Pen-y-bryn. Un arall y gwyddom yn dda am ei ddawn fel cyfansoddwr geiriau caneuon cofiadwy yw Penri Roberts, a chofiwn am ei waith gwych fel un o'r criw a sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn. Hyfryd gweld geiriau dwy o'i ganeuon adnabyddus, 'Cannwyll ein Rhyddid' ac 'Eryr Pengwern' yn y gyfrol hon. O edrych ar y gyfrol yn ei chrynswth, fe welir bod cydbwysedd da rhwng y cerddi caeth a'r rhydd. Mae'r cywyddau a'r englynion yn dangos yn glir fod crefftwyr wrth eu gwaith, ond mae sonedau Dafydd Morgan Lewis a cherddi penrhydd fel rhai Ann Fychan yn gaboledig iawn hefyd. Bu Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau yn llwyddiannus iawn eleni ar bob ystyr, a braf oedd cael treulio peth amser yno. Bu'r adran lenyddol yn hynod lewyrchus ac ni fu'n rhaid atal y wobr yn yr un o'r cystadlaethau. Bu’n gynhaeaf llenyddol toreithiog, ac mae'r gyfrol hon yn ychwanegiad gwerthfawr iawn at y cynhaeaf hwnnw. Mwynhewch bori ynddi. -- John Meurig Edwards @ www.gwales.com
Mae'r golygydd, Arwyn ('Groe') Davies yn byw gyda'i deulu ifanc ger y Trallwng, lle mae'n ffermio; mae’n weithgar gyda phapur bro 'Plu’r Gweunydd', ac yn dalyrnwr brwd.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396831
ISBN 10 1906396833
Title Beirdd Bro'r Eisteddfod: 3. Beirdd Bro Eisteddfod Maldwyn
Author Cyhoeddiadau Barddas
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2015-07-17
Number of pages 96
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.