Bro a Bywyd: Islwyn Ffowc Elis by Cyhoeddiadau Barddas

Bro a Bywyd: Islwyn Ffowc Elis by Cyhoeddiadau Barddas

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A collection of black-and-white photographs with relevant text tracing the life and work of Islwyn Ffowc Elis, the prominent and popular author. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Bro a Bywyd: Islwyn Ffowc Elis by Cyhoeddiadau Barddas

A collection of black-and-white photographs with relevant text tracing the life and work of Islwyn Ffowc Elis, the prominent and popular author. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Yng ngeiriau Rheinallt Llwyd, y golygydd, ‘Ymgais yw’r gyfrol hon, trwy gyfrwng “gweledol”, i ychwanegu rhyw ychydig at ein hadnabyddiaeth o ŵr hynod amryddawn ac amlweddog a gyfrannodd gymaint i Gymru a’r iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif’ Heb os, mae’r golygydd, Rheinallt Llwyd, wedi llwyddo i ychwanegu mwy nag ychydig at ein hadnabyddiaeth o Islwyn Ffowc Elis. Drwy gyfosod lluniau a dyfyniadau yn hynod gelfydd (yn aml o waith y llenor ei hun), mae’r golygydd yn ein tywys yn gronolegol drwy fywyd amrywiol a chyfnewidiol gŵr hynod greadigol a sensitif oedd yn arloesi ac yn creu cyffro ym mhob maes y bu’n ymhél ag e, o’r llenyddol adloniadol, i’r crefyddol, y gwleidyddol a’r addysgol. Mae’n gyfrol hynod gynhwysfawr sy’n cynnig trawstoriad o ddeunydd amrywiol, gwerth ei gofnodi, megis cerdd fwyaf cofiadwy ac adnabyddus Islwyn, ‘Perthyn’, arlunwaith o’i eiddo, hen siacedi llwch y cyfrolau gwreiddiol, llythyrau cyfeillion (yn cynnwys llythyr Caradog Pritchard yn ei longyfarch ar lwyddiant y gyfres ddrama deledu, Tre-sarn y bu’n ei chydgyfansoddi), enghreifftiau o lawysgrifen gymen, gain y llenor, lluniau teuluol, yn ogystal â phytiau gwerthfawr o ysgrifau anghyhoeddedig, a chyffyrddiadau personol megis carden ben blwydd arbennig iawn o gasgliad personol Eirlys Ffowc Elis sy’n dod â deigryn i’r llygad. Yn tynnu at ddiwedd y gyfrol, mae cofnod o gyflwyniad yr Athro Gwyn Thomas pan wnaed Islwyn Ffowc Elis yn Gymrawd Anrhydeddus yn ei hen goleg, Prifysgol Cymru Bangor, ar Orffennaf y 18fed 1995. Mae ei eiriau’n crynhoi cyfraniad aruthrol Islwyn Ffowc Elis i lenyddiaeth Gymraeg a hynny, ‘ar gyfnodau, ar gryn gost iddo’i hun. Bu ei gamp lenyddol yn ysbrydoliaeth i awduron iau nag ef, a bu’n sylfaen i adfywiad yn hanes y nofel Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Y mae Islwyn Ffowc Elis yn un o feistri rhyddiaith Gymraeg y ganrif hon, yn ŵr a roes wasanaeth enfawr i’r iaith Gymraeg, i’w llenyddiaeth, ac i’w genedl.’ O ganlyniad i ymchwilio dyfal, dethol gofalus a doeth, a chyflwyno medrus, mae cyfrol Rheinallt Llwyd yn sicr yn goffâd teilwng ‘i’r llenor annwyl a roes gymaint o bleser, trwy ei amryfal weithiau, i gynifer o’i gyd-Gymry’. -- Delyth George @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781900437943
ISBN 10 1900437945
Title Bro a Bywyd: Islwyn Ffowc Elis
Author Cyhoeddiadau Barddas
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2007-06-28
Number of pages 139
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.