Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Drama Fer
Summary
The feel-good place to buy books

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Drama Fer by Emyr Edwards
Mae'r drydedd gyfrol yn y gyfres y edrych ar grefft y ddrama fer ac yn cynnig cynghorion gwerthfawr i ddarpar ddramodwyr. Eir ati i roi cefndir y genre, ac yna ymlaen i edrych ar sylfeini'r ddrama fer, ei chrefft a hefyd dull llwyfannu yn y theatr. Mae'r awdur yn tynnu ar flynyddoedd o brofiad ac yn cyfeirio at sylwadau beirniaid cenedlaethol, ac yn cynnig trawsdoriad o ddyfyniadau. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Tasg anodd iawn yw cyfarwyddo pobl sut i greu gwaith celfMae’n grefft ond mae’n fwy na hynny hefyd. Ni ddylid bychanu’r grefft er mor bwysig yw’r ysbrydoliaeth. Pa ddewis gwell, felly, wrth chwilio am awdur i drafod y pwnc na chyfarwyddwr, beirniad a dramodydd uchel ei barch fel Emyr Edwards. Os yw dyn am ddysgu unrhyw beth am ei grefft rhaid wrth barch tuag at yr addysgwr, ac y mae profiad Emyr Edwards yn mynnu parch o’r cychwyn cyntaf. Daw ei brofiad fel darlithydd i’r amlwg yn fuan iawn yn y gyfrol hefyd gan ei bod wedi ei threfnu yn hynod daclus a dealladwy. Mae iddi bedair rhan: y cefndir, sef ei ddisgrifiad o’r genre ei hun; yr ail ran lle trafodir sylfeini dweud stori; ac yn y drydedd ran ceir egwyddorion sylfaenol y grefft, cyn cloi ag adran am y llwyfannu a’r berthynas â'r gynulleidfa. Nid traethiad un dyn a geir yma, ond yn hytrach mae Emyr Edwards yn rhannu nid yn unig ei brofiad personol o ysgrifennu, cyfarwyddo a beirniadu ond dyfyniadau cyfoethog gan bobl fel John Gwilym Jones, Wil Sam a llu o feirniaid eraill a godwyd o feirniadaethau eisteddfodol, erthyglau neu sgyrsiau. Plethir dyfyniadau perthnasol o ddramâu amrywiol hefyd i danlinellu a darlunio pob pwynt a wneir. Nid yn aml y ceir cyfrol am grefft ysgrifennu ac y mae cywain y dyfyniadau hyn ynghyd yn gymwynas werthfawr iawn. Mae amryw o’r agweddau a drafodir yn rhai yr oeddwn yn hynod falch o weld Emyr Edwards yn mynd ati i ymdrin â hwy. Disgrifia'r ddrama fel ‘gorchwyl cydweithredol’ gan bwysleisio strwythur, cynllun a datblygiad. Ac mae'r adran ar ddeialog, iaith a rhythm yn hynod werthfawr yn yr oes hon. I bobl sydd wedi eu magu yn sŵn adnodau Beibl William Morgan ac wedi'u dysgu ar eu cof, y mae rhythm iaith wedi ei wau i'w gwneuthuriad, ond mewn cyfnod heb y rhythmau clir mewn rhyddiaith, y mae cael rhywun fel Emyr Edwards yn dehongli rhythm iaith theatr yn amheuthun. Mae llawer o bobl yn troi at geisio ysgrifennu sgriptiau a dramâu y dyddiau hyn ac y mae cyfrol fel hon yn chwarel bwysig o wybodaeth ac yn gyforiog o gynghorion doeth gan ŵr sydd wedi hen arfer ei grefft. Ond un eironi rhyfedd – fe’i cyhoeddir gan wasg Barddas, gan nad oes gwasg yng Nghymru sydd yn arbenigo yn y theatr na’i chrefft, gwaetha’r modd. -- John Roberts @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396480 |
| ISBN 10 | 1906396485 |
| Title | Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Drama Fer |
| Author | Emyr Edwards |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2012-04-26 |
| Number of pages | 160 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |