Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

The first volume of poems by popular musician and singer Iwan Huws. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth by Iwan Huws

The first volume of poems by popular musician and singer Iwan Huws. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Nid oedd yn syndod bod Iwan Huws am ryddhau casgliad o gerddiAc yn wahanol i gyfrol o farddoniaeth newydd gan rywun sydd heb fod yn rhan amlwg o'r sin nosweithiau barddonol na Talwrn y Beirdd, mae syniad go lew gennym am y safon fydd rhwng y cloriau. Mae Iwan yn gyfarwydd fel canwr a chyfansoddwr caneuon Cowbois Rhos Botwnnog, mae wedi rhyddhau albwm unigol yn ddiweddar, a chaiff ei ystyried gan feirdd a chantorion o bob haen, profiad ac arddull fel dipyn o feistr ar y geiriau. Nid neidiwr newydd sbon i bwll y beirdd mo'r bardd hwn, felly, ac yn wir mae rhai o ganeuon Cowbois (ac Iwan) yn y gyfrol. Mae hwn yn syniad da gan fod y caneuon nid yn unig yn haeddu eu lle ond maen nhw hefyd yn fodd o ddenu darllenwyr na fyddai, o bosib, yn sticio'u trwynau i dudalennau cyfrol o farddoniaeth hollol newydd iddynt. 'Blodau ar Dân yn Sbaen' yw un enghraifft, sy'n gân lle ro'n i wastad eisiau ei chwarae hi eto er mwyn ailwrando ar y geiriau – a does dim angen gwneud bellach! Ac mi o’n i’n iawn i feddwl hynny gan ei bod yn gampwaith. Mae cynildeb eithriadol yn nodweddiadol o’r gyfrol oll, yn agor llwybrau i ni'r darllenwyr yn hytrach na’n gwthio ar eu hyd. Nid y ddelwedd blaen a’r cymariaethau arferol sydd gennym ni yn Gadael Rhywbeth. Y thema sy’n clymu’r cerddi at eu gilydd yw ‘symud’. A waeth pa mor araf, mae popeth yn symud, ac felly mae newid yn anochel. Dyma fyd y gyfrol, yn disgrifio heb esbonio, yn llawn myfyrio mwyn, meddylgar, melancolaidd. Fodd bynnag, cawn ambell beltan cyfrwys, annisgwyl, fel sydd yn gerdd 'Halltu’r Dydd'. Gwelwn eiriau caneuon fel 'Lle'r Awn i Godi Hiraeth', 'Deud y Byddai’n Disgwyl', a 'Tyrd, Olau Gwyn' yn cyd-deithio'n gytûn â cherddi newydd am deulu a thylwyth, natur a thir, hen brofiadau a iasau newydd. Mae’n rhoi cliw tew am ei wreiddiau yn 'Mae Dy Gar di’n Rhy Fawr', (sydd ar ei albwm). Cyfaddefa Iwan yn ei gyflwyniad ei fod yn ‘sâl gan ofn wrth fynd ati i dywallt concrit dros eu pennau’, ond heb os, diolch i'r drefn ei fod wedi cofnodi’r geiriau hyn. A do’n i byth yn siŵr beth oedd y llinell yn dilyn ‘Yn llac neu’n llym’ yn y gân 'Pan Fyddan ni’n Symud' chwaith, felly diolch yn benodol am fy ngoleuo, Iwan. Cyfrol fachog a chaboledig tu hwnt drwyddi draw yw hon. Arglwydd mawr, o'i ddweud mewn ffordd arall, mae’n dda. -- Hefin Jones @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584223
ISBN 10 1911584227
Title Cyfres Tonfedd Heddiw: Gadael Rhywbeth
Author Iwan Huws
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2019-05-23
Number of pages 48
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.