Cyfres Tonfedd Heddiw: Hel Llus yn y Glaw
Summary
The feel-good place to buy books

Cyfres Tonfedd Heddiw: Hel Llus yn y Glaw by Gruffudd Owen
The third title in a series presenting the work of young, talented poets - a volume to make you smile and ponder, with a mix of poems in free and strict metre. Hel Llus yn y Glaw is shortlisted for the Book of the Year Award 2016. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Perthyn Grufudd Owen i’r to o feirdd ifanc a fagwyd yng Ngwynedd ond sydd erbyn hyn, ar ôl derbyn addysg prifysgol, wedi ymsefydlu mewn swyddi proffesiynol yng NghaerdyddMae’n llwybr cyfarwydd yn y Gymru gyfoes, a chofnodi cerrig milltir y daith honno a wna’r gyfrol fechan, ond hynod ddifyr hon o gerddi dwys a digrif. Ceir yma hiraeth am y Cymreictod cadarn a fu'n rhan o’i brofiad bore oes ynghyd â phangfeydd o gydwybod am iddo droi ei gefn ar gaeau llafur ei hynafiaid a llacio’i afael ar y tir lle’i magwyd wrth i effeithiau ieithyddol y mewnlifiad a’r allfudo ddechrau brathu. Sylweddola'r bardd fod cyfnod yn dod i ben gyda chau drysau ysgol Sul Bethel, Penrhos, am y tro olaf ar ôl cant a hanner o flynyddoedd. Hiraethir hefyd am ddyddiau diofid Aberystwyth a dreuliwyd mewn coleg a chaffi yn gwylio’r blynyddoedd anghyfrifol yn machlud i’r môr. Yno, yn Neuadd Pantycelyn, yr oedd iddo lys pendefig lle câi ryddid i feddwi ar freudwydion y Gymru Rydd yng nghwmni ffrindiau ffraeth. Ond, wedi graddio, daeth yn amser i wagio’r rycsac o drugareddau myfyriwr a gwisgo cyfrifoldebau siwt a swydd. I wneud hynny bu raid troi am Gaerdydd lle cafodd ei hunan yn alltud heb filltir sgwâr. Teimlai grafangau’r ddinas yn cau amdano wrth i’r cyflog a’r morgais ei gaethiwo fwyfwy fesul mis. Er hynny, wrth iddo fwrw gwreiddiau yn naear estron Canton a Grangetown, daeth ar draws eneidiau o gyffelyb fryd, megis ei wraig, Gwennan. Darganfu hefyd, er iddo amau hynny ar y cychwyn, fod yna isddiwylliant byrlymus o Gymreictod yn bodoli hyd ochrau Waun Ddyfal. Erbyn hyn, mae’r ddau ohonynt yn aelodau o dîm Talwrn y Beirdd – Y Ffoaduriaid – ac yn gyfranwyr cyson mewn ddarlleniadau barddoniaeth neu stomp. Ceir y teimlad ei fod yn dechrau mwynhau bywyd yn ei fro fabwysiedig. Eto, rwy’n siŵr y bydd yn dal i ddychwelyd yn rheolaidd i hel llus yng nglaw Llŷn ac Eifionydd. -- Idris Reynolds @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396886 |
| ISBN 10 | 1906396884 |
| Title | Cyfres Tonfedd Heddiw: Hel Llus yn y Glaw |
| Author | Gruffudd Owen |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2015-11-19 |
| Number of pages | 52 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |