Dal i Fod - Cerddi Elin Ap Hywel by Elin Ap Hywel

Dal i Fod - Cerddi Elin Ap Hywel by Elin Ap Hywel

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A volume of poetry by a female international poet whose work has been translated into numerous languages. Elin ap Hywel is a well-known poet and this volume comprises all her poems in the Welsh language. They reflect themes of history, family and personal experiences in a style that encompasses the lyrical, provocative and ironic.|Dyma gyfrol bwysig gan fardd rhyngwladol - y casgliad cyflawn cyntaf o holl gerddi Elin ap Hywel yn yr iaith Gymraeg. Mae ganddi lais unigryw fel bardd a themâu amlwg ei gwaith yw hanes, chwedlau, lle'r ferch yn y byd sydd ohoni a phrofiadau personol. Mae ei harddull yn delynegol ond hefyd yn bryfoclyd ac eironig ar brydiau.

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Dal i Fod - Cerddi Elin Ap Hywel by Elin Ap Hywel

A volume of poetry by a female international poet whose work has been translated into numerous languages. Elin ap Hywel is a well-known poet and this volume comprises all her poems in the Welsh language. They reflect themes of history, family and personal experiences in a style that encompasses the lyrical, provocative and ironic. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ydyn ni wedi cyrraedd pwynt mewn llenyddiaeth Gymraeg lle gallwn ni ddisgrifio llyfr fel llyfr ‘ffeminyddol’ heb fod hwnnw’n derm dilornus, term y gallwn ei ddefnyddio, nid i roi bardd mewn bocs cyfyng, ond yn hytrach i ddisgrifio’r ffordd mae’n edrych ar y byd – yn fan cychwyn, nid yn llinell derfyn? Cyfrol ffeminyddol yw cyfrol Elin ap Hywel, yn ddigwestiwnMae hi’n gyfrol sy’n diorseddu a datganoli ffigwr y gwryw fel y safbwynt niwtral neu normal, a hynny’n gwbl fwriadol. Mae’r gerdd agoriadol, ‘Pwy oedd chwiorydd Heledd?’, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn chwyldroadol 1986 o gyfnodolyn Y Traethodydd, yn ddatganiad diamwys o fwriad. Y mae hi’n un o sawl cerdd yn y gyfrol sy’n ailddychmygu chwedlau Cymreig o safbwynt y cymeriadau benywaidd; cymeriadau a wnaed yn fud yn y fersiynau cyfarwydd. Dyma Flodeuwedd, ar ffurf tylluan sydd wedi ‘dechrau ymgynefino / ag adareiddrwydd’, neu Rhiannon, sy’n dianc rhag ffiniau’r stori ac o’r llun y mae rhywun wedi ceisio ei dynnu ohoni, gan gerdded ‘allan o’r darlun, yn syth i lygad yr haul’. Wrth adrodd stori o safbwynt gwahanol, mae’r stori ei hun yn newid, hyd yn oed os yw’r digwyddiadau yn aros yr un peth. Beth sy’n digwydd pan fydd traddodiad yn cael ei herio? Dychmygwyd na allai Cymru a’r Gymraeg fodoli heb y sefydliadau a’r traddodiadau a’i cynhaliai, a dyma wreiddyn yr ofn yn wyneb unrhyw achos, fel ffeminyddiaeth, a heriai werthoedd y sefydliadau hynny. Ond yn y gerdd agoriadol, mae Elin ap Hywel yn mynd â ni i dir neb byd heb bileri: Diffoddwyd aelwyd gwarineb. Pa le mae pileri cymdeithas, cynefin a châr? Heno, gwallgofrwydd sy’n gysefin … Mae Elin ap Hywel yn mentro dychmygu dyfodol yr ochr draw i’r sefydliad, y tu hwnt i draddodiad. Mae’n ein gwadd i ystyried hanes o safbwynt nad yw’n canoli’r profiad gwrywaidd, ac o wneud hynny nid yw’r tir neb hwn mor ofnadwy ag a ddychmygem i ddechrau. Down i sylweddoli, efallai, nad oedd y sefydliadau hynny mor anhepgor wedi’r cyfan. A pha sawl Heledd fu’n crwydro lonydd cefn hanes Cymru a’u cywilydd yn glynu fel gelen wrth eu cydwybod nes camu tu hwnt i’r ffin sy’n beryclach na’r llinell ar fap rhwng Cymro a Sais? Mae yna obaith yng ngherddi Elin ap Hywel, am Gymru lai ofnus, am Gymreictod llai bregus, ac am bethau sy’n cael eu torri, ac o’u trwsio, eu gwneud yn bethau gwell. -- Elan Grug Muse @ www.gwales.com
Mae Elin ap Hywel yn byw Llanilar ger Aberystwyth. Daw'n wreiddiol o Fae Colwyn a treuliodd gyfnodau'n byw yn Llundain, Ynysoedd Aran, Wrecsam, Caerdydd ac Aberystwyth. Bu’n gyfieithydd i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac i’r Academi Gymreig cyn mynd yn gyfieithydd llawrydd. Treuliodd gyfnod hefyd fel golygydd gyda Gwasg Honno. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Pethau Brau (Y Lolfa), yn 1982.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584360
ISBN 10 1911584367
Title Dal i Fod - Cerddi Elin Ap Hywel
Author Elin Ap Hywel
Condition Unavailable
Binding Type Hardback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2020-05-21
Number of pages 104
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.