Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn
Summary
The feel-good place to buy books

Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn by T Arfon Williams
The complete collection of the strict metre poetry of the late T. Arfon Williams, master of the englyn (four-line stanza), comprising all compositions found in his three earlier volumes together with a number of new englynion not previously published. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Bob blwyddyn yn yr ymryson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyflwynir gwobr arbennig, sef gwobr goffa TArfon Williams, i awdur englyn cywaith goraur wythnos. Maen arwydd o barch sydd gan y beirdd tuag at Arfon Williams fod cymaint o fri yn cael ei roi ar y tlws arbennig yma. Maer parch hwn yn deillio or edmygedd mwya sy gan bob englynwr tuag at grefft a dawn Arfon. Wrth edrych ar ei englynion, maen nhwn rhyfeddu fod y fath bethaun bosib o fewn deg sill ar hugain. Mae cyflwyniad meistrolgar Emyr Lewis i'r gyfrol hon yn nodi maint cyfraniad y bardd mewn ymryson a thalwrn, ei feddwl chwim a delweddol, ai hynawsedd bonheddig. Mae hefyd yn manylu ar ambell englyn, ac yn dangos i nir cyfoeth meddwl y tu ôl iddyn nhw. Gyda mesur yr englyn y maer rhan fwyaf ohonon nin cysylltu enw Arfon Williams, ond yn y gyfrol hon, mae yma gerddi ar fesurau eraill hefyd, yn eu plith hir a thoddeidiau, cywyddau a cherddi vers libre. Yr hyn syn dod ir amlwg wrth ddarllen y gyfrol ar ei hyd ydi fod yma Brifardd or iawn ryw. Mae rhai'n cael y teitl Prifardd trwy fod yn ddigon lwcus i ennill cadair neu goron, ond mae yna ddealltwriaeth anysgrifenedig yn rhywle yn yr isymwybod syn derbyn fod rhai yn Brifeirdd heb fod yn gorfod ennill na chadair na choron. Un felly oedd Arfon Willams. Yn y Casgliad Cyflawn hwn, mae yma gerddi oi gyfrolau cyhoeddedig, ynghyd ag adran o gerddi heb eu cyhoeddi. Mae eu cael i gyd o fewn un gyfrol yn sicrhau fod yma ffynhonnell gyfoethog a chyfleus o weithiau goraur bardd. Peth peryglus iawn ydi gorfod dewis un englyn o blith yr holl englynion o fewn y gyfrol yma, ond mae un sy wedi mynnu aros yn y cof ers i mi ei glywed gyntaf, a hynny ar gyfrif ei ddelweddu hollol syfrdanol: Ewyn Pan chwery chwa oddi uchod âr môr mae hen angenfilod y dwfn ir wyneb yn dod iw hailenin wylanod. Mae haenau o ystyron ir englyn hwn, ond does ond angen gwrando arno i glywed y gwahaniaeth rhwng y dechrau ar diwedd. Maer cytseiniaid cras sy yn y paladr yn taro rhywun yn syth, ou cymharu â llyfnder llwyr yr esgyll. Bydd gan bob darllenydd ei ddehongliad ei hun, a dyna ei gryfder. Ewch ati i ddarllen mwy. Mae gwledd yn eich aros. -- Tudur Dylan Jones @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781900437585 |
| ISBN 10 | 1900437589 |
| Title | Englynion a Cherddi T. Arfon Williams - Y Casgliad Cyflawn |
| Author | T Arfon Williams |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2003-07-01 |
| Number of pages | 248 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |