'Iaith Oleulawn' by Dafydd R Johnston

'Iaith Oleulawn' by Dafydd R Johnston

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

Dafydd ap Gwilym yw bardd enwocaf y Gymraeg, ac roedd ganddo eirfa hynod o gyfoethog. Mae’r llyfr hwn yn dangos sut y gellir gwerthfawrogi ei farddoniaeth yn well trwy ganolbwyntio ar ei ddefnydd o eiriau.

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

'Iaith Oleulawn' by Dafydd R Johnston

Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.
Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781786835673
ISBN 10 1786835673
Title 'Iaith Oleulawn'
Author Dafydd R Johnston
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher University of Wales Press
Year published 2020-06-15
Number of pages 320
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.