
Llafargan by Aneirin Karadog
Llafargan is a comprehensive collection of poems in both strict and free metres by chaired bard Aneirin Karadog, the poems being the fruits of the poet's studies into the relationship between the poet, his medium and audience. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Aneirin Karadog yn un o’n beirdd cyfoes mwyaf cynhyrchiol a chyhoeddusAc yntau’n amlwg wrth ei fodd yn perfformio ar lwyfan, ar deledu a hefyd ar y podlediad Clera, diddorol – ond nid gormod o syndod chwaith – yw darllen yn ei ragair i’w drydedd gyfrol fod pob cerdd yn Llafargan wedi cael ei datgan yn uchel ganddo cyn ei gosod yn derfynol ar y ddalen. Ffrwyth tair blynedd o ymchwil am ddoethuriaeth yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe yw’r gyfrol. Dywed iddo gynhyrchu dros ddau gant o gerddi yn ystod y cyfnod hwnnw, a cheir bron i gant rhwng y cloriau hyn. Mae’r bardd yn cydnabod fod ambell gerdd yn ‘colli ei hapêl’ i’r bardd heb iddo ei pherfformio ar lafar, ond cred hefyd fod cerddi eraill yn gweithio’n well ar bapur yn unig. Ac mae’n rhoi ‘rhwydd hynt’ i ni’r darllenwyr wneud a fynnwn – llafarganu ei gynnyrch neu fyfyrio’n dawel uwch ei ben. Dim ond inni ddarllen y cywydd hwyliog ‘Robin goch arbennig iawn’ am ddiffyg sgiliau DIY y bardd, gallwn glywed ei lais yn ei ddatgan fel cloch: ‘Mi a harthiais â morthwyl,/tolciais a honnais gael hwyl ...’ Felly hefyd yn y cywydd chwerwfelys ‘Kenavo Eurig’ i Eurig Salisbury wrth i Aneirin a’i deulu gychwyn am Lydaw lle buont yn byw am flwyddyn: ‘Drwy’r curlaw o Lydaw oleuedig,/carca di Walia drwy’r oes gythreulig;/bydd wyliwr, gwarchodwr ei hychydig/gywyddau yn y llannau pellennig.’ Gwn hefyd i’w berfformiad o’r gerdd rydd ‘Calon [stori wir]’ ar y cyd â’i ferch Siriol lenwi sawl llygad yn ddiweddar. Un o ddileits Aneirin Karadog yw cleciadau cynganeddol i bwrpas, fel yn y cwpled hwn o’r cywydd ‘Ysgwrn ein cynhysgaeth’ – ‘Blast. Bois ar hast dros rostir,/ar y gwynt yn rhegi hir.’ Mae hefyd yn giamstar ar greu trawiadau newydd. Pwy all beidio â gwenu’n werthfawrogol wrth ddarllen y llinellau hyn i’w diwtor, y Prifardd Alan Llwyd? – ‘Yn d’ymyl mae dy emwaith,/traw’r gân, deiamwntiau’r gwaith,/ ag Alaniaeth, yn sgleinio ...’ Mae’r elfen hon o ganu cymdeithasol yn wythïen gref yn y gyfrol, fel ymwybyddiaeth Aneirin o’i filltir sgwâr ym Mhontyberem, ac mae’n llongyfarch ei gyd-feirdd ar eu hamrywiol lwyddiannau, yn dathlu priodas ac yn cofio sawl un a gollwyd. Er cystal sawl cywydd ac englyn, yn ei ddilyniant o gerddi rhydd i’w ddiweddar gyfnither, Cathryn Anne Rees, fu farw yn 35 oed, y gwelwn y cyfuniad hwnnw o emosiwn a chrefft sy’n ein sodro yn ein hunfan: ‘A gwn, gwn yn iawn/dy fod ti gyda ni yng nghalon fy merch/am iddi hi dy hudo di yno’n glyd./Ac fe wyddost nad yw marwolaeth/yn ddim mwy na chyfle gwell/i ddawnsio’n rhydd.’ Dilyniant y bardd o gerddi caeth ‘Ffiniau’, enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, sy’n agor y gyfrol. Yn yr un Eisteddfod, ef a wahoddwyd i ymateb i nifer o weithiau yn y Lle Celf; o blith y cerddi hynny mae’r gyfres englynion ‘Yn ôl i laethdy’ ac ‘Ysbrydion’ yn sicr yn uchafbwyntiau, a’r lluniau a osodwyd gyferbyn â’r cerddi i gyd yn cyfrannu at ein gwerthfawrogiad ohonynt. Yn wir mae’r cyfuniad o ddiwyg cyffredinol Llafargan a’i chynnwys yn wledd i’r llygad, y glust a’r meddwl. -- Annes Glynn @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781911584230 |
| ISBN 10 | 1911584235 |
| Title | Llafargan |
| Author | Aneirin Karadog |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2019-07-05 |
| Number of pages | 128 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |