
Llyfr Gwyn by Gwyn Thomas
In the second of a literature biography series which is a tribute to litterateurs, the poet, lecturer and university professor Gwyn Thomas discusses his life and the influences on his work. 72 black and white illustrations. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Hunangofiant llenyddol Gwyn Thomas yw hwnMae’n wir bod y gwrthrych eisoes wedi llunio hunangofiant traddodiadol yn Nhachwedd 2006. Ond y tro hwn, yn ail gyfrol Cyfres Llenorion Cymru gan Barddas, ceir hanes y bardd a’r ysgolhaig o safbwynt ei gynnyrch llenyddol, gyda dyfyniadau niferus o’r gweithiau hynny, ynghyd â lluniau sy’n ychwanegu at ein diddordeb a’n dealltwriaeth. Yn naturiol, mae dechrau’r daith, fel yn hanes Meredydd Evans, yn Nhanygrisiau, sydd, fel y deallwn, yn lle cwbl ar wahân i’r drefedigaeth fwy, ‘tros y ffordd’, sef Blaenau Ffestiniog. Y mae gan y bardd ddehongliad onest a chignoeth o’i fro enedigol mewn cerddi fel ‘Blaenau’ a ‘Cwmorthin’, ac y mae’n amlygu ei barch a’i gydymdeimlad â’r chwarelwr, ac â’r tirlun o’i gwmpas. Mae diddordebau’r bardd mewn geiriau, ei ddiddordeb chwareus yn wir, gyda’r iaith heddiw a’r dull y mae’n datblygu ar lafar, yn amlwg; ac mae’r wedd lafar hon, ynghyd â’r elfen chwareus, yn britho ei gynhyrchion. Cawn hefyd fewnwelediad i gred a bywyd ysbrydol y bardd – peth digon prin erbyn heddiw a dewr o wrthffasiynol. Wedi trafod ei hynafiaid a’i addysg, cawn benodau ar y ddrama, mythau a symbolau, ffilmiau, natur a chaneuon, a chawn weld sut yr ymddiddorodd Gwyn Thomas yn y meysydd hynny a sut y dylanwadwyd ar ei gynnyrch llenyddol gan y pynciau hynny, a chan wahoddiadau i lunio geiriau a chyfrolau gan gydweithio â’r arlunwyr John Meirion Morris a Margaret Jones, y cerddor William Mathias, ynghyd â rhai o gynhyrchwyr y BBC. ‘Diymhongar’ yw’r gair sy’n aros wedi darllen y gyfrol. Mae Gwyn Thomas yn medru rhoi’r argraff, gyda gwên ac elfen o litotes, ei fod yn ddidaro ac yn ystyried bywyd yn ysgafn a chwareus. Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir, a’r hyn y mae’n llwyddo i’w amlygu, yn ei farddoniaeth ac yn y gyfrol hon, yw ei wir gonsýrn dros ei gynefin, ei iaith, ei wlad, ei gredo, a’i deulu. Yn wir dyma gyfrol hanfodol i bawb a fyn ddeall gwaith y bardd. -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9781906396862 |
| ISBN 10 | 1906396868 |
| Title | Llyfr Gwyn |
| Author | Gwyn Thomas |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Cyhoeddiadau Barddas |
| Year published | 2015-10-23 |
| Number of pages | 218 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |