Pigion y Talwrn 12 by Robert Lacey

Pigion y Talwrn 12 by Robert Lacey

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

A collection of diverse serious and light-hearted poetry prepared by various poets throughout Wales for the popular radio series Talwrn y Beirdd, comprising poetry in free and strict metres. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Pigion y Talwrn 12 by Robert Lacey

A collection of diverse serious and light-hearted poetry prepared by various poets throughout Wales for the popular radio series Talwrn y Beirdd, comprising poetry in free and strict metres. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cynnyrch Talwrn y Beirdd yn bennaf rhwng 2005 a 2010, er bod ambell gerdd o 2011 yno hefyd, sef blwyddyn olaf Gerallt Lloyd Owen fel MeurynCeir y detholiad cyfarwydd o gynnyrch barddol a hynny gan dimau ar hyd a lled Cymru, yn hen ac yn ifanc.
Fel y dywed y golygydd yn ei gyflwyniad i’r gyfrol:
Er ymryson barddoniaeth â’n gilydd i gael goruchafiaeth ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth yn Dalwrn ein brawdoliaeth.
• Dyma gasgliad olaf o bigion y Talwrn dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen, ac felly yn benllanw ar flynyddoedd o fod wrth y llyw mewn talyrnau led-led Cymru. • Mae’r rhagymadrodd bywiog gan Ceri Wyn Jones, y Meuryn presennol, yn crynhoi cyfraniad Gerallt dros y blynyddoedd, cyfraniad y gyfres ac yn wir arwyddocâd y gyfrol hon o’r Pigio. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Ddeuddeng mlynedd ar hugain yn feuryn a golygydd deuddeg cyfrol o gyfres Pigion y Talwrn, ond hyd yn oed wedyn, mae ei gamp yn llawer mwy nag y gall yr un ystadegyn ei chyfleu. Ni fedrwn fynegi maint camp Gerallt Lloyd Owen yn well na’r hyn a ddywed ei olynydd ar Y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn rhagair y gyfrol hon: ‘Yn wir, mae’n deg dweud i Gerallt, drwy ei esiampl a’i anogaeth, lywio chwaeth artistig cenhedlaeth o feirdd.’ Ie, yn 1979 y dechreuodd y cyfan. Blwyddyn hanesyddol. Fel y dywed Ceri Wyn eto: ‘Dyma flwyddyn y “Na” i ddatganoli yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn yr ymosododd byddin yr hen Undeb Sofietaidd ar Afghanistan.’ Yna, gyda hiwmor yr un mor gynnil ag un ei ragflaenydd, aiff ati i ddisgrifio 1979 fel blwyddyn fawr i unbenaethiaid – yr Ayatolla Khomeini a Margaret Thatcher. ‘Ac, er nad oes cysylltiad o bethau’r byd, dyma’r flwyddyn hefyd y bu i Gerallt Lloyd Owen gychwyn arni fel meuryn Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru!’ Ie, sguboriau Gerallt yw deuddeg cyfrol y Pigion. Beirdd eraill wnaeth wasgaru’r grawn a’i feithrin. Ond mae marc Gerallt ar ystlys pob gambo a wnaeth gludo’r ŷd i’r ydlan. Gwir y dywed Ceri Wyn: ‘Mae’r graen sydd ar gerddi’r beirdd yn dyst i’w dyled ... a’n dyled ni i gyd iddo.’ Ac yn ogystal â bod yn feuryn, bu hefyd yn gyflwynydd dihafal. Fel y dywed y meuryn presennol, ‘Fe addysgodd ac fe blesiodd genhedlaeth o wrandawyr, oherwydd roeddent hwythau wrth eu bodd yng nghwmni ei lais, ei ffraethineb a’i angerdd tawel.’ Ac ie, Ceri, rhaglen Gerallt oedd y Talwrn. Mae’r gyfrol olaf hon o’r deuddeg yn cynnwys pigion cyfresi 2005–2011 ac yn dilyn yr un patrwm llwyddiannus: adrannau yn cynnwys englynion cywaith, cwpledi, limrigau, penillion dychan, penillion ymson, telynegion a sonedau, englynion amrywiol a chywyddau. Mae Gerallt yn cloi ei gyflwyniad byr olaf gydag englyn ffarwél: Er ymryson barddoniaeth â’n gilydd i gael goruchafiaeth, ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth yn Dalwrn ein brawdoliaeth. Ac fel un a gafodd y fraint o fod yn aelod o’r frawdoliaeth honno am flynyddoedd, carwn ychwanegu fy niolch gwylaidd personol i’r meuryn, y meistr a’r cyfaill annwyl. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Mae Gerallt Lloyd Owen yn un o wŷr llên amlycaf y genedl ac yn enw sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth i’r traddodiad barddol yng Nghymru. Bu wrth y llyw fel Meuryn ar raglen Talwrn y Beirdd Radio Cymru, ac fel Meuryn Ymryson y Beirdd y yr Eisteddfod Genedlaethol ers 32 o flynyddoedd.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396510
ISBN 10 1906396515
Title Pigion y Talwrn 12
Author Robert Lacey
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2012-10-30
Number of pages 199
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.