Rhuddin by Laura Karadog

Rhuddin by Laura Karadog

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

An original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Rhuddin by Laura Karadog

An original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd gan Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau'r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy'n gysylltiedig â yoga a meddylgarwch – disgyblaethau sy'n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau'r pandemigMae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a “[b]od llawer o'r atebion yr ydym ni'n chwilio amdanynt i'w canfod y tu mewn i ni'n hunain, ac nid ar y tu allan”. Noda’r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, “a hynny mewn geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg”. Ceir penodau ar themâu gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. Ar gyfer pob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol â phrofiadau a chyd-destun personol sy'n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i'r darllenydd. Trysorau'r gyfrol hon yw'r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones. I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i'r llygad, o blith lliwiau'r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i'r pwnc dan sylw. Mae'r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis ‘ystum y mynydd’, myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu'r anadl, dod o hyd i'r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio'r corff, yoga adferol a yoga nidra. Os yw'r geiriau o iaith Sanskrit yn peri ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef “Enw'r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel 'Ystum y Mynydd' wrth ymarfer yoga. Mae'n gyfuniad o'r geiriau tada 'mynydd' ac asana 'sedd' neu 'ystum'.” Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a'r rhestr darllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg ‘Y Fendigaid Gân’ gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gītā. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol â'r Dwyrain. Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch “ein hanfod, ein craidd a'n rhuddin”. -- Mair Jones @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781911584513
ISBN 10 1911584510
Title Rhuddin
Author Laura Karadog
Condition Unavailable
Binding Type Hardback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2021-09-26
Number of pages 96
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.