
Siwan a Cherddi Eraill by Saunders Lewis
The eighth edition of the classic drama about Siwan, Llywelyn Fawr's queen, by one of Wales's most important playwrights of the 20th century, together with 14 poems. Reprint. First Published in 1956. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Sgandal yn llys ein Tywysog! Llywelyn yn dal Siwan odinebus! Crogi ei chariad! Hawdd dychmygu penawdau papur newydd 1230Gwyddom y ffeithiau moel, ond nid paham y bradychodd Siwan Lywelyn ar ôl oes oi helpu i adeiladu teyrnas Gwynedd yn erbyn ei thad ei hun, brenin Lloegr. Paham y dialodd Llywelyn mor giaidd ar Wilym Brewys druan? A rhyddhau Siwan oi charchar ymhen blwyddyn? Ni wyddom air o unrhyw sgwrs rhwng y cymeriadau hyn. (Yn sicr Ffrangeg, nid Cymraeg, a siaradai Siwan a Gwilym gydai gilydd, ac efallai hefyd Siwan a Llywelyn.) Yn Siwan cawn ymgais bardd i ddychmygu eu cymhellion au hymddiddanion. Chwedl Saunders Lewis, cerdd greadigol yw hi, nid gwaith hanesydd. Cerdd radio, yn wreiddiol: y lleisiau, y llefaru barddonol syn bwysig, nid decor llwyfan a digwyddiadau gweladwy. Yn Act I, rhaid cyfleur garwriaeth, cefndir llys Gwynedd, ac unigrwydd digariad Siwan wedi oes o lafurio dros uchelgais Llywelyn. Cymherir y ddau gariad â Thrystan ac Esyllt: awgrymir mai tynged, nid dewis, yw achos eu serch ac y bydd yn angheuol, fel yn y chwedl. Pan ddelir hwy, Siwan syn llefarur geiriau syn selio tynged Gwilym. Yn Act II, rhaid wrth Alis i ddisgrifio ir gwrandäwr beth na all ef na Siwan moi weld: dienyddio Gwilym ddewr. Carcharwyd Siwan ai rhyddhau flwyddyn yn ddiweddarach: paham? Sut y gallodd y ddau gyd-fyw wedyn? Ceir yr ateb yn Act III. Cydymdeimla Saunders Lewis âi arwres: gellir maddau i unrhyw wraig a ddywed, Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin. (Felly hefyd arwres Blodeuwedd: darllenwch honno.) Edmyga Saunders Lewis ddewrder Gwilym, syn mentro popeth er mwyn serch a mynd iw dranc yn herfeiddiol dalog. Ond i Saunders Lewis dymar dirgelwch mwyaf: Bu crogi Gwilym Brewys yn sioc i holl bendefigaeth ffiwdal Ewrop. Nid ei ladd, ond y crogi, cosb y lladron taeog (h.y. yn lle dienyddio anrhydeddus â bwyell). Pam? Pam? O fyfyrio ar hynny y tyfodd y ddrama hon.(Y Gragen, t.17, 1971) Gallasair arglwyddi Normanaidd eraill godi i ddial y sarhad: paham y mentrodd Llywelyn ei deyrnas? I fodloni dicter personol, fel y tybia Siwan? Na: fe gamddeallodd hi ei gŵr: wrth ymbil dros Wilym, dengys ei chred y byddai Llywelyn yn barod i aberthu ei anrhydedd er mwyn ei deyrnas. I Lywelyn, sarhad yw, syn peri iddo grogi Gwilym i ddangos bod anrhydedd yn bwysicach na theyrnas. Yn eironig, Siwan ei hun a bennodd dranc ei chariad. Yn Act III eglura Llywelyn wrthi: Ti fu achos ei grogi ... Mi atebais i ddirmyg â dirmyg
Ac i ddangos i wraig am sarnai /Fod un peth y taflwn i goron Aberffraw a Chymru Cunedda er ei fwyn. Maen rhy hwyr iddi dyngu, Nid dirmyg oedd fy mwriad. Dwyseir tristwch urddasol yr act olaf pan glyw Siwan i Lywelyn ei charu or cychwyn, ond iddo ymatal rhag dangos hynny rhag ei dychryn. Maen rhy hwyr iddo yntau ddatgelu hyn: bu yntau ar fai. Camgymeriad trasig y ddau fu peidio ag agor eu calonnau iw gilydd, a gadael i bryder ynghylch y deyrnas fod yn drech na theimladau personol. Er hynny, i Saunders Lewis, arwr iw edmygu oedd Llywelyn. Meddai, Mi dybiaf fod mentro popeth ar siawns ... a hynny er mwyn serch ... neu wlad neu anrhydedd ... yn rhan o gymeriad pob mab a merch o galon uchel. Hoffais innau gymeriadau fel yna, Amlyn ac Esther a Hofacker a Llywelyn Fawr.(Y Gragen, l971) Nid gwaith hanesydd mo Siwan. Gŵr priod canol oed oedd Gwilym, nid llanc ifanc; nid drannoeth y crogwyd ef, ond dri mis yn ddiweddarach, nid yn Aber ger Bangor ond yng Nghastell Crogen, ger Llandrillo ym Meirionnydd. Gwyddys mai cynghorwyr Llywelyn a bwysodd am grogir Norman. Ni raid derbyn dehongliad dychmygus Saunders Lewis or ffeithiau moel. Er gwaethaf her Llywelyn, ni chododd yr arglwyddi Normanaidd yn ei erbyn; na brenin Lloegr ychwaith. Awgrymwyd mai cynllwyn oedd y cyfan, trap i ddenu Gwilym er mwyn cael esgus i gael gwared arno a rhannu ei diroedd yn ysbail. Bu pethau rhyfeddach na hynny yn hanes y gwledydd, a gellid dychmygu drama afaelgar ar sail y dyb honno. Erys Siwan yn ddarlun ingol o wrthdrawiad serch, anrhydedd a gwleidyddiaeth. -- Bruce Griffiths @ www.gwales.com
| SKU | Unavailable |
| ISBN 13 | 9780954056902 |
| ISBN 10 | 0954056906 |
| Title | Siwan a Cherddi Eraill |
| Author | Saunders Lewis |
| Condition | Unavailable |
| Binding Type | Paperback |
| Publisher | Dinefwr Publishers Ltd |
| Year published | 2018-02-12 |
| Number of pages | 88 |
| Cover note | Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary. |
| Note | Unavailable |