Treiglo by Gwyneth Lewis

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father.|Dyma gyfrol hirddisgwyliedig o gerddi newydd gan Gwyneth Lewis - cyfrol sy'n myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Yma, mae Gwyneth yn defnyddio egwyddor y treigladau – meddal, llaes, trwynol a chaled – i fyfyrio ar golli ei thad a'i Gymraeg Beiblaidd, coeth.

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Treiglo by Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oesTreiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Mae unrhyw gyfrol o farddoniaeth o law Gwyneth Lewis yn ddigwyddiad o bwys. A hynny am y gwyddoch y bydd y cerddi hyn yn wahanol iawn i unrhyw gerddi eraill a ddarllenwch yn Gymraeg. Bu’r ffaith iddi ganolbwyntio ar y gair ‘ treiglo’ yn ddifyr ac yn sicr yn hergwd i’r puryddion iaith na welant tu hwnt i dreigladau gramadegol. Achos y mae yna, yn y gyfrol hon, arweddau amryfal o edrych ar dreiglo a phob un yn ymestyn ein dealltwriaeth o’r hyn a olyga, yn enwedig y ‘treiglo’ olaf hwnnw o farwolaeth. Cyfrol bersonol iawn yw’r gyfrol a’r cerddi yn alarus ar adegau ond yn mynegi, fel y dylai pob marwnad, fawrhad o einioes wedi ei fyw mewn modd cyfoethog. Mae cymaint o gerddi yn rhai sydd yn aros yn y cof, fel ‘ Cerddoriaeth y Meistri’ lle mae’r tad yn mynegi ei gariad at gerddoriaeth gan holi’r teulu, a’r cyweiriau gwahanol yn rhoi cliw i’r darllenydd. Ceir elfen o ddigrifwch wrth i ni ddod i adnabod cwyrcs y gwahanol gyfansoddwyr cyn y colyn tua’r diwedd wrth iddyn nhw erfyn ‘iddo ddiweddglo/ Yn arddull Bach/ llawn ffydd a rhesymeg. Bach, noddfa hawdd ei chael i’m bach’. Anodd yw dewis a dethol cerddi penodol sy’n cyffwrdd â’r darllenydd am fod y gyfrol ar ei hyd yn ymgais at ail-fyw mabinogi y dyn arbennig hwnnw a fu’n dad iddi. Cynnwys ei chwaer hefyd wrth iddynt gofio gyda’i gilydd am ei gariad, boed hynny drwy’r pethau symlaf oll fel ‘pan olchai Dad ein gwallt’, a hynny ‘Â Vosene, y sawr fel bendith’. A! Gallaf innau gofio yr union weithred honno o ddwylo tyner fy nhad innau. Felly, cerddi sy’n cerdded i lawr meingefn y darllenydd yw’r rhain, yn gwynto o asbri ieuenctid a henaint, o alar a hiraeth melys. Dangosodd y cerddi fel yr oedd modd, ie, ‘treiglo’ rhwng bychanfyd y claf a’r byd mwy anfeidrol ei ddyhead. Nodir pob manylyn gydag amseriadau ‘gwylad’ yn cael eu nodi yn glinigol bron, a hynny yn wrthbwynt yn erbyn y byd delweddol gyfoethog y mae’r bardd yn ei weld, boed yn aderyn du mewn parc neu ‘piod/ Yn cecru yn y coed’. Ceir y math o ddeialogau a gaiff pob un gydag anwylyn wedi iddo adael y byd hwn. Ond yn gymwys â’r siarad, mae atgofion tyner a dwys am weithredoedd cariadus ac angenrheidiol y sawl sy’n agosáu at ddarfod, fel y gerdd am ‘Min’ wrth iddi eillio ei thad a’r ‘Sŵn statig wrth y dur/ Gyfrif pob blewyn a’i fedi’. Dyma gyfrol sydd yn deyrnged ragorol i dad annwyl a doeth. Ond mae’n drysorfa hefyd i ddarllenwyr o bob oed, gan ddangos fel y gall barddoniaeth wneud gwahaniaeth arhosol i fywydau y rhai byw. -- Menna Elfyn @ www.gwales.com
Yn 2005, cyhoeddwyd y gyfrol Tair Mewn Un gan Gyhoeddiadau Barddas i ddathlu penodi Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, sef detholiad o’i thair cyfrol gyntaf o gerddi (Sonedau Resda a Cherddi Eraill, 1990, Cyfrif Un ac Un yn Dri, 1996, a Y Llofrudd Iaith, 1999). Treiglo fydd ei chyfrol gyntaf o gerddi Cymraeg gwreiddiol ers dros ddegawd a mwy, felly. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Gwyneth gan Lenyddiaeth Cymru yn 2011-2012 a’i galluogodd i weithio ar gerddi'r gyfrol hon o gerddi newydd, ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012 yn ogystal.
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396947
ISBN 10 1906396949
Title Treiglo
Author Gwyneth Lewis
Condition Unavailable
Binding Type Hardback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2017-10-17
Number of pages 72
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.