Flodeugerdd Englynion Newydd, Y by Cyhoeddiadau Barddas

Flodeugerdd Englynion Newydd, Y by Cyhoeddiadau Barddas

Regular price
Checking stock...
Regular price
Checking stock...
Summary

Casgliad o englynion cyfoes sy'n dangos yr englyn yn fyw heddiw. Argraffiad newydd o Blodeugerdd Barddas o Englynion Cyfoes a gyhoeddwyd yn 1978, gydag ychwanegiadau sylweddol. Mae Alan Llwyd yn brifardd uchel ei barch yng Nghymru, sydd wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. -- Cyngor Llyfrau Cymru

The feel-good place to buy books
  • Free US shipping over $15
  • Buying preloved emits 41% less CO2 than new
  • Millions of affordable books
  • Give your books a new home - sell them back to us!

Flodeugerdd Englynion Newydd, Y by Cyhoeddiadau Barddas

Casgliad o englynion cyfoes sy'n dangos yr englyn yn fyw heddiw. Argraffiad newydd o Blodeugerdd Barddas o Englynion Cyfoes a gyhoeddwyd yn 1978, gydag ychwanegiadau sylweddol. Mae Alan Llwyd yn brifardd uchel ei barch yng Nghymru, sydd wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Yn 1978 cyhoeddwyd Y Flodeugerdd Englynion gan Wasg Christopher DaviesY golygydd oedd y bardd a’r prifardd amlwg, Alan Llwyd, a oedd yn bennaeth Adran Olygyddol y Wasg. Yn 2009 dyma Y Flodeugerdd Englynion Newydd gan Gyhoeddiadau Barddas, eto dan olygyddiaeth Alan Llwyd, sydd yn awr yn Olygydd Cyhoeddiadau Barddas. Casgliad o englynion unodl union gorau’r iaith a geir yma, wedi’i dosbarthu yn ôl pwnc. Yr oedd 1525 o englynion yn yr argraffiad cyntaf, ac mae 1858 yn yr ail argraffiad. Dywed y broliant i’r ail argraffiad fod y rhan helaethaf o’r englynion ychwanegol wedi’i llunio yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Dywed y golygydd yn ei froliant i’r argraffiad newydd iddo fanteisio ar y cyfle i ddiwygio a chywiro rhai mân bethau a lithrodd i mewn i’r argraffiad cyntaf. Mae felly'n werth prynu’r ail argraffiad hyd yn oed os yw’r un cyntaf gennych. Mae yma ragymadrodd manwl ar hanes yr englyn gan y golygydd, a nodiadau gwerthfawr ar lawer ohonynt ar y diwedd. Ceir atodiad hefyd ar grefft yr englyn, er bod yr ail atodiad ar amrywiadau’r englyn, a oedd yn yr argraffiad cyntaf, wedi’i hepgor yma. Yn yr argraffiad cyntaf ceir mynegai i’r beirdd, ond mae hwnnw wedi diflannu fan hyn ac, yn ei le, mae mynegai i deitlau’r englynion. Trueni nad oedd modd cynnwys y ddau. O ddewis, buaswn i wedi dewis y mynegai i’r beirdd. Mae’n demtasiwn i gymharu diwyg y ddau argraffiad, oherwydd maent yn wahanol iawn i’r llygad. Mae i argraffiad 1978 glawr caled a siaced lwch, papur lliw hufen hyfryd, maint tudalen wythblyg, a theip moel. Mae i’r argraffiad newydd glawr meddal, papur gwyn teneuach, maint tudalen lletach na’r wythblyg arferol, ond teip mwy traddodiadol ei olwg. Ar y cyfan, mae’n well gennyf i'r wythblyg hen ffasiwn, y papur lliw hufen, ond y teip traddodiadol. Petawn yn gorfod dewis fy hoff englyn, dewiswn hwn gan Dafydd Nanmor: Mal blodau prennau ymhob rhith, - mal ôd, Mal adar ar wenith, Mal y daw y glaw a’r gwlith Mae i undyn fy mendith. Dyma gyfrol hyfryd yn llawn gemau bychain ar hyd y canrifoedd. -- Huw Ceiriog @ www.gwales.com
SKU Unavailable
ISBN 13 9781906396244
ISBN 10 1906396248
Title Flodeugerdd Englynion Newydd, Y
Author Cyhoeddiadau Barddas
Condition Unavailable
Binding Type Paperback
Publisher Cyhoeddiadau Barddas
Year published 2009-11-26
Number of pages 264
Cover note Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.