Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio. Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae'r llwybr yn arwain at y Copa Coch - mynydd sy'n taflu cysgod brawychus dros y tir... ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i'r teithwyr eu datgelu. * Llyfr wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Elidir Jones a Huw Aaron * 40+ o luniau du a gwyn gan Huw Aaron * Perffaith i'r rheiny sy'n mwynhau darllen The Edge Chronicles (Paul Stewart / Chris Riddell) neu'r gyfres Redwall (Brian Jacques), neu sy'n hoff o drysor, bwystfilod ac antur. -- Cyhoeddwr: Atebol
Mae'n rhyfeddod parhaus i mi fod cyn lleied o weithiau ffantasi gwreiddiol ar gael yn y Gymraeg, yr iaith a gynhyrchodd y Mabinogi - straeon sydd wedi ysbrydoli The Lord of the Rings, llyfrau cyfres Harry Potter, Game of the Thrones a chymeriadau di-ri mewn gemau cyfrifiadur Saesneg, Coreaidd a Siapaneg ledled y byd! Ymddengys weithiau fod pawb yn gwerthfawrogi ein galluoedd creadigol yn y maes dan sylw ... heblaw amdanom ni ein hunain. Dyma ail ymgais Elidir Jones i wneud yn iawn am y diffyg hwn yn dilyn Y Porthwll, nofel ffantasi i oedolion na chafodd hanner digon o sylw pan gyhoeddwyd hi yn 2015. Nofel i bobl ifanc yw'r Horwrth i fod, ond rhaid cyfaddef fy mod, a minnau'n prysur agosau at gopa coch canol oed, mor hapus a thrwch trwyth mewn baw yn treiddio i Diroedd Gwyllt y De ac yn dod i nabod cymeriadau brith, gan gynnwys Heti, Casus a'r Abad Pietro. Er i mi grybwyll y Mabinogi, nid ailgylchu byd ffantasi sy'n bodoli eisoes y mae Elidir Jones yma ond creu un newydd yn gyfan gwbwl o'i ben a'i bastwn ei hun. Yn nhraddodiad gorau y genre mae'r gyfrol yn dechrau a map gydag enwau fel 'Yr Oerdir Unig' ac 'Ymerodraeth yr Enfer' arno. Mae'n atgoffa rhywun pam bod yr iaith Gymraeg wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i gynifer o gyfresi ffantasi gwahanol - mae yna rywbeth cynhenid yn yr iaith Gymraeg, ryw gymysgedd o drystio gwreiddiau mynyddoedd ac ysgafnder y gwynt, sy'n swnio fel pe bai eu henwau'n perthyn i fyd y tylwyth teg. Mae gen i deimladau cymysg am gynnwys darluniau mewn llyfr ffantasi, am mai rhan o'r hwyl wrth ddarllen yn aml iawn yw cael dychmygu byd sydd mor anarferol ag yr ydych chi'n dymuno iddo fod. Ond mae darluniadau Huw Aaron mor llawn o gymeriad fel eu bod yn ychwanegiad gwerth chweil yma. Mae'n tueddu i ddarlunio gwrthrychau mewn manylder a thirluniau yn reit fras, gan ganiatau i'r dychymyg lenwi'r bylchau. Yn bwysig iawn, rhyw fath o hanes ail-law a geir yma, ac mae pa mor ddibynadwy y mae'r adroddwr wrth ddweud ei stori yn fwriadol amwys. Yr argraff a geir o'r geiriau a'r lluniau, felly, yw mai awgrym ydyn nhw o'r hyn a ddigwyddodd - fel darllen hen ddogfen lle mae'r mynach wedi bod yn tynnu lluniau ar yr ymylon. Gobeithio mai'r stori hon dyma fydd y gyntaf o nifer yng nghyfres y Copa Coch. A gobeithio y byddan nhw'n ysbrydoli Cymry ifanc i fod eisiau darllen rhagor o weithiau ffantasi yn y Gymraeg - a'u hysgrifennu nhw hefyd! -- Ifan Morgan Jones @ www.gwales.com