Cart
Free Shipping in the UK
Proud to be B-Corp

Hen Englynion - Diweddariadau Gwyn Thomas

Hen Englynion - Diweddariadau By Gwyn Thomas

Hen Englynion - Diweddariadau by Gwyn Thomas


£4.40
New RRP £7.95
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

The oldest stirct metre 'englynion' brought up-to-date, with a valuable introduction. Religious and nature poetry including proverbs are presented, together with 'englynion' linked with myths, in particular the three cycles of myth 'englynion': Canu Llywarch, Canu Urien and Canu Heledd.

Hen Englynion - Diweddariadau Summary

Hen Englynion - Diweddariadau by Gwyn Thomas

The oldest stirct metre 'englynion' brought up-to-date, with a valuable introduction. Religious and nature poetry including proverbs are presented, together with 'englynion' linked with myths, in particular the three cycles of myth 'englynion': Canu Llywarch, Canu Urien and Canu Heledd.

Hen Englynion - Diweddariadau Reviews

Yn 1970 cyhoeddwyd y gyfrol arloesol Yr Aelwyd Hon gan olygyddiaeth Gwyn Thomas, oedd yn cynnwys diweddariadau o hen farddoniaeth Gymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas ei hun, cyfrol sydd wedi bod wrth benelin sawl un wrth astudior Gymraeg yn mewn ysgol a phrifysgol. Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd yr ysgolhaig droi yn ol unwaith eto at ein barddoniaeth Gymraeg gynnar, y tro hwn gan ganolbwyntio ar y canu englynol cynnar: Mi ddechreuais feddwl, unwaith eto, ei bod hin bechod ei bod hin haws i ddarllenwr Cymraeg gael gafael ar fersiynau dealladwy or hen ganu hwn yn Saesneg nag yn Gymraeg. Ac am yr ail waith mi benderfynais geisio cyflwyno cyfran on hen ganu ni fel cenedl yn Gymraeg, meddai yn y Rhagarweiniad ir gyfrol.
Maer hen englynion sydd wedi eu diweddaru yn y gyfrol hon, dros deugain cyfres o englynion i gyd, iw cael mewn dwy brif lawysgrif, sef Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250) a Llyfr Coch Hergest (rhwng 1382 a thua 1405), ac yn cynnwys canu crefyddol, canu natur a gwireb ac englynion sydd a chysylltiad a chwedlau, ac yn benodol y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd. Ystyrir y canu englynol hwn ymysg y cerddi canoloesol mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern o safbwynt yr arddull uniongyrchol a hefyd eu cynnwys. Pwysleisia Gwyn Thomas mair un peth yn anad dim arall y ceisiodd ei wneud gydar diweddariadau newydd yma oedd sicrhau fod yna rythm yn y linellau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Ar hyd ei yrfa, fe geisiodd yr Athro Gwyn Thomas ddehongli a symleiddior testunau llenyddol y bun ymdrin a hwy ar gyfer y darllenydd cyffredin na chafodd y fraint o ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg rhoi testunaur gorffennol pell yn iaith heddiw a datgloir dirgelwch. Dyna oedd bwriad y gyfrol Yr Aelwyd Hon ddeugain a phump o flynyddoedd yn ol, pan gyflwynodd ddiweddariadau or canu arwrol ac o beth o'r canu englynol yn 1970. Nawr fe gyhoeddir ei ddehongliad or canu englynol cynnar syn cwblhau canur cyfnod. Yr oedd yr englynion hyn ar gael yn Saesneg eisoes a bellach maent ar gael yn hwylus a hylaw yn Gymraeg. Dosberthir y canu hwn i nifer o ddosbarthiadau: Canu Crefyddol, Canu Natur a Gwirebau, Englynion a fun rhan o chwedlau, Canu Llywarch Hen, Canu Urien, Canu Heledd, ac Englynion Cadwallon. Yn y rhagymadrodd ir cerddi trafodir y dehongli a fu arnynt o ddyddiau William Owen [Pughe] hyd at argraffiad safonol Syr Ifor Williams a chyfraniadau nifer o ysgolheigion cyfoes. Trafodir y fydryddiaeth, sef y gwahanol fathau o englynion au nodweddion mydryddol, ynghyd ag ambell bwynt o ramadeg syn effeithio ar y canu. Dawr rhagymadrodd i ben gyda thrafodaeth ar awduraeth yr englynion a phwt byr ar oed y canu. Maer hen ffefrynnau yma i gyd: Can yr Henwr, Baglan Bren, Eiry Mynydd, Claf Abercuawg, Stafell Gynddylan, Eryr Pengwern, Y Dref Wen, ond yn ogystal ar rhain cynhwyswyd englynion eraill or cyfnod cynnar syn ymddangos yma ac acw yn y llawysgrifau, gan gynnwys Englynion y Juvencus; Englynion y Beddau; cyfresi a fu ar un adeg ynghlwm wrth chwedlau fel Chwedl Taliesin a hanes boddi teyrnas Gwyddno Garanhir, sef Cantrer Gwaelod; englynion syn gysylltiedig a Chwedl Geraint fab Erbin or Mabinogion; Englynion Cadwallon; ynghyd ar gerdd hyfryd Cyntefin Ceinaf Amser. Does dim posib peidio a son am un englyn o blith englynion Canu Llywarch Hen, sef yr englyn Ir Ddeilen Hon, syn cynnwys un or llinellau mwyaf cofiadwy yn holl lenyddiaeth Cymru, llinell syn crynhoi byrder a breuder bywyd mor gryno ag syn bosib: Hi hen eleni ganed, neu a dyfynnur diweddariad: Mae hin hen eleni yi ganed (t. 126). Mae dod ar holl englynion hyn ynghyd o fewn yr un clawr yn gymwynas fawr, ond maer diweddariadau lawn mor werthfawr drwy gyflwyno fersiwn diweddar syn seiliedig ar ddysg nifer o ysgolheigion amlycaf ein cyfnod. Diolch, felly, ir golygydd ar diweddarwr am ei sensitifrwydd ac am drylwyredd ei lafur. Mae clawr y gyfrol, o waith deheuig Olwen Fowler, syn seiliedig ar rannau o Lyfr Coch Hergest, yn syber ac addas iawn ir testun. Gallaf innau gofion ol, union bum mlynedd a deugain, i dryblith darlithiau Mr Brinley Rees am naw ar fore Gwener yn y Coleg ar y Bryn, pan gawsom, yn ddosbarth o israddedigion, ein cyflwyno gyntaf i dristwch llawer or canu hwn syn son am golled, ac syn gipdrem hiraethus yn ol ar yr hyn a fu. -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com

Table of Contents

CANU CREFYDDOL Naw Englyn y Juvencus Cyntaf Gair Cynefin Ceinaf Amser Cynogion. Elaeth a'u Cant Dryll o Ddadl y Corff a'r Enaid Cysul Addaon 1 Cysul Addaon 2 Penyd Llywelyn a Gwrnerth 1 Penyd Llywelyn a Gwrnerth 2 Mab Mair Ymddiddan Arthur a'r Eryr CANU NATUR A GWIREBAU Llym Awel Eira Mynydd Bidiau 1 Bidiau 2 Y Gnodiau Calan Gaeaf Calan Gaeaf ar Misoedd Baglawg Byddin Gorwynion Englynion y Misoedd Englynion y Clywaid ENGLYNION SYDD A CHYSYLLTIAD A CHWEDLAU Tri Englyn y Juvencus Englynion Beddau Dinas Maon Geraint fab Erbin Ysgolan Gwallog ar Wydd Ymddiddan rhwng Gwyddno Garanhir a Gwyn ap Nudd Ymddiddan Ugnach (neu Wgnach) a Thaliesin Boddi Maes Gwyddno CANU LLYWARCH HEN Gwen ap llywarch ai Dad Marwnad Gwen Pyll Llywarch a Maen Beddau, neu Amryfal Englynion am Feibion Llywarch Enwau meibion Llywarch Gwahodd Llywarch i Lanfawr (neu Lanfor) Can yr Henwr Claf Abercuawg CANU URIEN Unhwch Pen Urien Celain Urien Anoeth Efrddyl, neu Efyrddyl Rhun, neu Marwnad Rhun Anaf, neu Englyn Crwydr Dwy Blaid Elgno, neu Elno Diffaith Aelwyd Rheged CANU HELEDD Cynddylan Stafell Gynddylan Eryr Eli Eryr Penwgern Eglwysau Basa Y Dref Wen Ffreuer Bugeiles Lom, neu Hel Gwartheg Afonydd Newid Byd Gorwynion Gyrthmwl Ercal Heledd, neu Heledd Hwyedig Gorsedd Orwynion Syllu Dinlleu Frecon Heledd, neu Brodyr Heledd Hedyn, Epigram Caranfael, neu Gwal Twrch Heledd ai Brawd Claf Beddau Maes Maoddyn, neu Beddau Trenn Chwiorydd Heledd Cynddylan a Chynwraith Maes Cogwy Llemenig Englynion Cadwallon

Additional information

GOR013618391
9781906396749
1906396744
Hen Englynion - Diweddariadau by Gwyn Thomas
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2015-04-17
160
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Hen Englynion - Diweddariadau