Cart
Free Shipping in the UK
Proud to be B-Corp

Llyfr Gwyn Gwyn Thomas

Llyfr Gwyn By Gwyn Thomas

Llyfr Gwyn by Gwyn Thomas


£3.50
New RRP £12.95
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

In the second of a literature biography series which is a tribute to litterateurs, the poet, lecturer and university professor Gwyn Thomas discusses his life and the influences on his work. 72 black and white illustrations.

Llyfr Gwyn Summary

Llyfr Gwyn by Gwyn Thomas

In the second of a literature biography series which is a tribute to litterateurs, the poet, lecturer and university professor Gwyn Thomas discusses his life and the influences on his work. 72 black and white illustrations.

Llyfr Gwyn Reviews

Hunangofiant llenyddol Gwyn Thomas yw hwn. Mae'n wir bod y gwrthrych eisoes wedi llunio hunangofiant traddodiadol yn Nhachwedd 2006. Ond y tro hwn, yn ail gyfrol Cyfres Llenorion Cymru gan Barddas, ceir hanes y bardd a'r ysgolhaig o safbwynt ei gynnyrch llenyddol, gyda dyfyniadau niferus o'r gweithiau hynny, ynghyd a lluniau sy'n ychwanegu at ein diddordeb a'n dealltwriaeth. Yn naturiol, mae dechrau'r daith, fel yn hanes Meredydd Evans, yn Nhanygrisiau, sydd, fel y deallwn, yn lle cwbl ar wahan i'r drefedigaeth fwy, 'tros y ffordd', sef Blaenau Ffestiniog. Y mae gan y bardd ddehongliad onest a chignoeth o'i fro enedigol mewn cerddi fel 'Blaenau' a 'Cwmorthin', ac y mae'n amlygu ei barch a'i gydymdeimlad a'r chwarelwr, ac a'r tirlun o'i gwmpas. Mae diddordebau'r bardd mewn geiriau, ei ddiddordeb chwareus yn wir, gyda'r iaith heddiw a'r dull y mae'n datblygu ar lafar, yn amlwg; ac mae'r wedd lafar hon, ynghyd a'r elfen chwareus, yn britho ei gynhyrchion. Cawn hefyd fewnwelediad i gred a bywyd ysbrydol y bardd - peth digon prin erbyn heddiw a dewr o wrthffasiynol. Wedi trafod ei hynafiaid a'i addysg, cawn benodau ar y ddrama, mythau a symbolau, ffilmiau, natur a chaneuon, a chawn weld sut yr ymddiddorodd Gwyn Thomas yn y meysydd hynny a sut y dylanwadwyd ar ei gynnyrch llenyddol gan y pynciau hynny, a chan wahoddiadau i lunio geiriau a chyfrolau gan gydweithio a'r arlunwyr John Meirion Morris a Margaret Jones, y cerddor William Mathias, ynghyd a rhai o gynhyrchwyr y BBC. 'Diymhongar' yw'r gair sy'n aros wedi darllen y gyfrol. Mae Gwyn Thomas yn medru rhoi'r argraff, gyda gwen ac elfen o litotes, ei fod yn ddidaro ac yn ystyried bywyd yn ysgafn a chwareus. Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir, a'r hyn y mae'n llwyddo i'w amlygu, yn ei farddoniaeth ac yn y gyfrol hon, yw ei wir gonsyrn dros ei gynefin, ei iaith, ei wlad, ei gredo, a'i deulu. Yn wir dyma gyfrol hanfodol i bawb a fyn ddeall gwaith y bardd. -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com

Table of Contents

Bro fy mebyd Yr aelwyd I'r ochr draw Gwyliau: 'Tanygrisiau, dyma fi'n dod' Ysbrydion Amser rhyfel Pethau dramatig Byd addysg Mythau a symbolau Ffilmiau Natur Caneuon BBC Plant Diwedd

Additional information

GOR007520920
9781906396862
1906396868
Llyfr Gwyn by Gwyn Thomas
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
20151023
218
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Llyfr Gwyn