Gwyddom oll fod plant yn chwilfrydig a'u hawch i ddysgu yn ddiddiwedd. Wel, dyma'r llyfr perffaith i ddiwallu'r awch hwnnw! Mae gwybodaeth mor bwysig i blant i ddeall y byd a'u lle ynddo, ac mae croeso bob amser i wyddoniadur mor lliwgar a deniadol a hwn. Mae'r holl bynciau y byddech yn eu disgwyl mewn gwyddoniadur yma - y ddaear a'r gofod, y tywydd a'r tirwedd, mapiau a gwybodaeth am wledydd y byd, mamaliaid ac amffibiaid, deinosoriaid a hanes yr hen fyd, sut mae'r corff yn gweithio, yn ogystal ag ychwanegiadau difyr iawn megis rhifo a lluosi, arwyddion y Sidydd a horosgopau'r Tsieineaid. Ceir yma ddigonedd o wybodaeth a ffeithiau i sicrhau sawl sesiwn bleserus o ddarllen gyda phlant, yn ogystal a bod yn ddigon hwylus i fedru darganfod yr union dudalen wrth chwilio am bwnc arbennig. Ond nid oes gormod o ffeithiau yma, chwaith, i orlethu'r darllen. Mae'r brawddegau byrion a'r lluniau lu yn golygu bod y darllen yn rhwydd ac yn ddifyr, ac yn wir gall hefyd fod yn ymarfer darllen da ynddo'i hun i ddarllenwyr hyderus chwech oed a hyn. Mae'r lluniau a gosodiad y tudalennau mor amrywiol a lliwgar, ac mae troi pob tudalen yn bleser i weld y cyfoeth gweledol gwahanol. Mae'r dyluniad yn sicr yn ychwanegu at y dysgu, er enghraifft gosod tyrau uchaf y byd yn ymyl ei gilydd i gymharu eu huchder, a'r trac rasio i'n helpu i ddeall cyflymder creaduriaid. Mae amrywiaeth y teip a'r defnydd amrywiol o brint trwm a phriflythrennau hefyd yn helpu i wneud y darllen yn haws. Mae'r addasiad yn un clodwiw, a'r Gymraeg yn llifo'n rhwydd a naturiol. Yr unig drueni, wrth gwrs, yw bod Cymru yn cael cam mewn gwyddoniadur cyffredinol fel hwn (map y Deyrnas Unedig sydd yma, e.e. ac nid un Cymru), a gwych o beth fyddai cael gwyddoniadur cystal yn son am yr holl bethau pwysig am Gymru. -- Gwenllian Dafydd @ www.gwales.com