Especially adapted by Elin Meek for Key Stage 2 children (aged 7 to 11 yrs). An account of the Second World War which examines the causes of the war, its great battles and catastrophes and how the struggle affected nations and people all over the world. It also features vivid illustrations, original photographs, timelines, maps and fact boxes. Essential for ALL history classes. -- Publisher: Rily
Tasg anodd iawn yw esbonio hanes yr Ail Ryfel Byd. Mae'n fwy cymhleth na'r Rhyfel Byd Cyntaf, rywsut, gyda chynifer o bobl yn ymladd mewn lleoliadau ar draws y byd, a hynny am sawl rheswm gwahanol. Fe laddwyd o leiaf 50 miliwn o bobl, yn filwyr a sifiliaid. Mae'r gyfrol yn dechrau drwy ein hatgoffa ni o'r hyn a ddigwyddodd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a chanlyniadau cytundeb heddwch Versaillles. Mae'n frawychus darllen am sut y gwnaeth tensiynau gwleidyddol ac economaidd y 1920au a'r 1930au arwain yn anorfod at ryfel arall. Mae'r llyfr yn rhoi trosolwg eang o'r Ail Ryfel Byd - y digwyddiadau, y prif gymeriadau, a'r cymhellion gwahanol. Adrannau byr sydd yna ond mae nhw'n gynhwysfawr iawn ac mae'r lluniau a'r ffotograffau sydd ar bob tudalen yn drawiadol, ac yn gymorth mawr wrth ddarllen. Mae'r llinell amser ar y diwedd yn ffordd dda o atgoffa'r darllenydd o berthynas y gwahanol frwydrau a'i gilydd. Daw cymhlethdod a chreulondeb yr Ail Ryfel Byd yn boenus o amlwg; dyma ryfel yr holocost, y bomiau atomig a Stalingrad. Dyma'r rhyfel pan roedd nifer o'r pwerau mawr yn ystyried y gelyn yn israddol, gan ddangos dim trugaredd tuag at sifiliaid wrth gipio tir. Mae'n debyg i Japan hyd yn oed ollwng llau wedi eu haentio a'r pla du ar rannau o China mewn ymgais i gynorthwyo'i hachos. Yn ddi-os, mae'r llyfr yn llwyddo i adrodd stori'r Ail Ryfel Byd. Yr hyn sy'n sobri dyn wrth ddarllen y tudalennau olaf yw sylweddoli sut mae canlyniadau'r rhyfel hwnnw'n dal i gael effaith heddiw, ac nad ydym wedi dysgu fawr ddim o'r profiadau enbyd. -- Cerian Arianrhod @ www.gwales.com