Dyma gampwaith arall gan feistr straeon plant, Roald Dahl. Y tro hwn mae gan ferch fach fys hud a gwae ei chymdogion ac unrhyw un sydd yn mentro ei chroesi, oherwydd unwaith iddi ddechrau gwylltio mi all unrhyw beth `boncyrs ddigwydd! Pethau handi ar y naw ydir bysedd hud yma! Meddyliwch bob tro rydych chin gwylltion gacwn gyda rhywun eich bod yn mynd yn boeth i gyd, bod eich bys yn dechrau cosi a does dim rhaid i chi wneud dim ond pwyntio at y person hwnnw er mwyn dial go iawn! Rhoi cynffon a whisgers ar eich athrawes gas, troi pobl greulon yn adar does dim stop ar y ferch fach yn y nofel hon! Digon yw digon pan mae teulu Elwy yn mynnu saethu heidiau o hwyaid, gan gynnwys cywion bach. Maen rhaid dod hyn i ben, a diolch ir awdur anhygoel, mae dawn y dweud ar delweddau dramatig wrth i ni ddarllen y stori hon yn ddoniol ac yn hynod o ddifyr. Dyma lyfr syn berffaith ar gyfer plant hyn iw darllen eu hunain, neu iw ddarllen i blant ieuengach, ac maer stori'n siwr o gadw unrhyw blentyn ar bigaur drain hyd at y gair olaf. Oherwydd y sefyllfaoedd gwallgo ynghyd digrifwch y ferch fach, maer stori'n gweithio yr un mor dda yn y Gymraeg ar Saesneg. Drwyddi draw, mae lluniau arbennig Quentin Blake yn ychwanegu at y comedi. O na bai gennym ni i gyd fys hud mor handi r bys hud hwn, ynd! Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru